Prifysgol Aberystwyth yn cynnal trafodaeth ar Fil Deddf yr Undeb gan Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad

15 Hydref 2019

Gyda Chalan Gaeaf ac ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn prysur agosau, ac yn eu sgil y potential am argyfwng cyfansoddiadol rhwng cenhedloedd y DU, mi fydd cyfansoddiad newydd arfaethedig ar gyfer y DU yn cael ei drafod ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Iau 24 Hydref 2019.

Yn ymuno â’r arbenigwr cyfansoddiadol blaenllaw Syr Paul Silk i drafod Bil Deddf yr Undeb gan Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad bydd y cyn weinidogion Llafur yr Arglwydd Hain a Gisela Stuart a chyn Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC.

Disgrifiwyd y mesur gan newyddiadurwr The Times, Iain Martin, fel “yr ymgais gyntaf i ddatblygu cynllun cydlynol ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd pan fydd pwerau yn dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd.”

Mae’n cynnig strwythur ffederal newydd i’r DU ac yn sefydlu’r egwyddor o hunan-benderfynu i genhedloedd y Deyrnas Unedig.

Mae hefyd yn dadlau’r achos dros ddiwygiad radical o Dŷ’r Arglwyddi ac o bosibl ei ddiddymu.

Cynhelir y drafodaeth yn yr Hen Goleg rhwng 6pm a 8pm gan  WISERD, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru’r Brifysgol a’i chadeirio gan yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Dywedodd yr Athro Michael Woods, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru: “Gan fod y drafodaeth am le Cymru yn y DU ar yr agenda o’r newydd, daw Grŵp Diwygio Cyfansoddiadol â chyfraniad amserol a phwysig i’r ddadl i Aberystwyth ac rydym yn falch o gynnal y digwyddiad hwn a hwyluso cyfle i bobl leol ymuno â'r drafodaeth.”

Cafodd Bil Deddf yr Undeb 2017-19 ei lunio a’i ddrafftio gan Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad, grŵp pwyso trawsbleidiol yn y Deyrnas Unedig.

Cadeirydd y Grŵp yw’r Ardalydd Salisbury, cyn Arweinydd Tŷ’r Arglwyddi, ac fe’i gychwyn mewn ymateb i ddatblygiadau cyfansoddiadol tameidiog cyn 1997 ac yn arbennig ers hynny, gan gynnwys y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban yn 2014 a chyflwyno’r gweithdrefnau “Pleidleisiau Lloegr ar ddeddfau Lloegr” yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mewn erthygl a gyhoeddwyd ym mhapur newydd y Times yn 2015 ynghylch pleidleisiau arfaethedig William Hague ar Bleidleisiau Lloegr ar Ddeddfau Lloegr, dywedodd ur Ardalydd Salisbury: “Mae’r DU yn cerdded yn ei chwsg i argyfwng dirfodol” a “p'un a ydym yn hoff o hyn neu beidio, rydym felly ar drywydd system ffederal a does dim pwrpas mynd ati heb argyhoeddiad.”

Mewn ymateb i'w bryderon ynghylch trefniadau cyfansoddiadol presennol y Deyrnas Unedig, aeth ati i gynnull Pwyllgor Llywio Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad ym mis Gorffennaf 2015 gydag Arglwydd Lisvane, yr Arglwydd Campbell o Pittenweem, yr Arglwydd Hain, Syr Paul Silk, Gisela Stuart, Daniel Greenberg, Shana Fleming, David Burnside, Caroline Roberts, David Melding AC a Joanna George. Ymunodd Lisa Nandy AS, Bim Afolami AS a Seema Malhotra AS â’r Pwyllgor Llywio ar ddiwedd 2018.

Cafodd y mesur ei gyflwyno fel Bil aelod preifat gan gyn-Glerc Tŷ’r Cyffredin ac aelod ar y meinciau croes, yr Arglwydd Lisvane, ar 9 Hydref 2018 pan dderbyniodd ei ddarlleniad cyntaf ffurfiol. Mae'r Bil yn aros am ei ail ddarlleniad ar hyn o bryd.

Mae’r digwyddiad yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim, ac mae tocynnau ar gael ar-lein.