Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod y Sylfaenwyr

Dathlu Diwrnod Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth drwy gicio’r Bar.

Dathlu Diwrnod Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth drwy gicio’r Bar.

11 Hydref 2019

Bu staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol yn brasgamu drwy’r elfennau ar hyd promenâd Aberystwyth heddiw, ddydd Gwener 11 Hydref 2019, fel rhan o ddathliadau blynyddol Diwrnod y Sylfaenwyr y Brifysgol.

Dan arweiniad yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure, cynhaliodd y cerddwyr eofn draddodiad hir-sefydlog Aberystwyth a ‘chicio’r bar’ y tu allan i Neuadd Alexandra, y neuadd breswyl gyntaf i fenywod yn y DU, cyn dychwelyd yn ôl i’r Hen Goleg am frecwast.

Bellach mae dathliad Diwrnod y Sylfaenwyr yn rhan o galendr blynyddol y Brifysgol, ac yn nodi’r diwrnod pan yr agorwyd ei drysau am y tro cyntaf yn Hydref 1872.

Y siaradwr gwadd eleni oedd Bryn Jones. Derbyniodd Bryn Radd Baglor er Anrhydedd gan y Brifysgol yn 2015 am ei waith diflino yn y gymuned ac yn benodol am ei weledigaeth gyda Fforwm Gymunedol Penparcau.

Wedi iddo annerch neuadd lawn o bobl, dywedodd Bryn: “Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy ngwahodd i annerch digwyddiad Diwrnod y Sylfaenwyr heddiw ac i weld cymaint o aelodau’r gymuned leol, yn ogystal â staff, myfyrwyr a ffrindiau’r Brifysgol yn bresennol. Mae elfen gymunedol y prosiect o roi bywyd newydd i’r Hen Goleg yn bwysig iawn i mi, ac rwy’n falch iawn fy mod wedi cynrychioli’r gymuned leol ar Fwrdd Prosiect yr Hen Goleg o’r cychwyn cyntaf. Mae cynlluniau newydd yr Hen Goleg yn gyffrous iawn ac edrychaf ymlaen at weld grwpiau fel Fforwm Cymunedol Penparcau yn gwneud yn fawr o’r adeilad eiconig hwn wrth iddo brofi bywyd newydd yng nghalon tref Aberystwyth.”

Cafodd Bryn gwmni’r diwydiannwr Fictorianaidd Thomas Savin ar y llwyfan. Ei weledigaeth ef o adeiladu rheilffordd o Birmingham i Aberystwyth a gwesty pum seren ar lan y môr, a fyddai ymhen hir a hwyr yn cynnig lleoliad delfrydol i goleg cyntaf Prifysgol Cymru yn 1872.

Dymunodd Savin, a chwaraewyd gan Mike Francis, athro Saesneg sydd bellach wedi ymddeol, pob dymuniad da i’r gwesty a fyddai’n Hen Goleg.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Hyfryd oedd gweld eleni eto’r Hen Neuadd yn llawn wrth i ni ddathlu gwaith ein Sefydlwyr. Eu gweledigaeth dros 150 o flynyddoedd yn ôl a arweiniodd at sefydlu Aberystwyth fel coleg cyntaf Prifysgol Cymru. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r egin-goleg a groesawodd 26 o fyfyrwyr i hen westy wedi blodeuo’n gymuned academaidd fyrlymus ac un o ysgogwyr diwylliannol ac economaidd pwysicaf Cymru. Rwy’n ddiolchgar iawn iddynt, fel yr wyf i’r rhai sydd wedi chwarae eu rhan yn yr antur nodedig hon; hir oes iddi.”

Nodwyd pwysigrwydd prosiect yr Hen Goleg i gymuned y myfyrwyr hefyd gan Lywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Dhanjeet Ramnatsing.

Prynwyd yr Hen Goleg, sef safle Tŷ’r Castell a ddatblygwyd yn westy gan Thomas Savin, ym 1867 fel cartref cyntaf Prifysgol Cymru gan gymwynaswyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig am £10,000.

Wrth i’r Brifysgol nesáu at ei phen-blwydd yn 150 oed, mae cynlluniau ar y gweill i drawsnewid yr adeilad eiconic yn ganolfan ar gyfer dysgu, diwylliant a menter ac yn gatalydd mawr i ddatblygiad Aberystwyth.

Eisoes codwyd dros £1 miliwn ar gyfer apêl yr Hen goleg, a hynny mewn rhoddion ac addewidion o bob cwr o’r byd gan gynnwys ymddiriedolaethau a sefydliadau, ac mae cynlluniau’r prosiect sydd wedi derbyn cefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, i’w gweld yma.