Partneriaeth y Brifysgol â NatWest yn rhoi hwb i fentrwyr busnes
08 Hydref 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth ac AberArloesi yn ymuno â NatWest i helpu darpar fentrwyr lleol drwy lansio fersiwn atodol o raglen 'Pre-Accelerator' y banc hwnnw.
Mae'r rhaglen ar agor i fentrwyr busnes a chanddynt syniad am fusnes newydd neu sydd newydd sefydlu un, a'r bwriad yw y bydd o fudd i fyfyrwyr ac i fusnesau lleol fel ei gilydd.
Yn rhan o raglen lwyddiannus 'Entrepreneur Accelerator' NatWest, mae'r 'Pre-Accelerator' yn rhaglen ddigidol sy'n cael ei hategu gan ddigwyddiadau sy'n cynnig cefnogaeth wyneb-yn-wyneb. Y banc sy'n ariannu'r rhaglen gyfan, ac nid oes angen i'r cyfranogwyr fod yn gwsmeriaid i'r banc hwnnw er mwyn cymryd rhan ynddi.
Yn ystod y rhaglen, a fydd yn cael ei lansio ar 4 Rhagfyr gyda digwyddiad yn y Brifysgol, bydd y mentrwyr busnes yn cael manteisio ar 12 modiwl digidol a fydd yn helpu i'w harfogi â'r setiau o sgiliau y bydd eu hangen er mwyn datblygu eu cynigion busnes.
Y llynedd, roedd mwy na 6,000 of fusnesau ledled gwledydd Prydain yn cymryd rhan yn rhaglen 'Entrepreneur Accelerator' banc NatWest, a menywod oedd 47% ohonynt. Mae'r busnesau hyn i gyd wedi denu mwy na £31m o fuddsoddiadau a chyllid.
Dywedodd Tony Orme, hyrwyddwr menter fasnachol Prifysgol Aberystwyth: Rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda NatWest i ddod â'r rhaglen flaengar hon i Aberystwyth. Hyd yn hyn, dim ond mewn dinasoedd mawrion ym Mhrydain y mae'r rhaglen hon wedi'i darparu, ac rydym ar ben ein digon o gael ei chynnig hi ar Gampws Penglais, gan edrych ymlaen at groesawu darpar fentrwyr busnes o'r gymuned leol yn ogystal â'n myfyrwyr mentergar ni ein hunain"
Dywedodd y Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol AberArloesi: "Mae rhaglen 'Pre-accelerator' NatWest yn apelio at fentrwyr busnes a chwmnïau newydd yn y gwyddorau amaethyddol sy'n awyddus i feddwl am ymbaratoi at ddenu buddsoddwyr. Mae'r rhaglen yn ychwanegu at y cymorth a ddarparwn i unigolion sydd â syniadau gwych ac a allai gael budd ychwanegol o'r adnoddau newydd sydd i'w cael yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth, er mwyn eu helpu i gyflymu'r broses o fasnacheiddio eu cynnyrch a'u gwasanaethau.
Dywedodd James Powell, Cyfarwyddwr Menter Rhanbarthol NatWest: "Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i lansio fersiwn atodol o'n Rhaglen 'Pre-Accelerator' hynod lwyddiannus yn y Brifysgol. Dyma gyfle gwych i fentrwyr lleol sydd wedi cael syniadau penigamp am fusnesau y maent yn awyddus i'w gwireddu neu i'r rhai sydd newydd wthio'r cwch i'r dŵr."