Dyfodol Cynaliadwy: datblygu cynaliadwyedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol
26 Medi 2019
Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnal cynhadledd undydd ar ‘Dyfodol Cynaliadwy: datblygu cynaliadwyedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol’ heddiw, ddydd Gwener 27 Medi.
Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd academyddion ledled Prifysgol Aberystwyth gyda rhanddeiliaid polisi amgylcheddol a gwledig allweddol i edrych ar gyfleoedd i ddatblygu prosiectau ymchwil a fydd yn cyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Bydd y gynhadledd hefyd yn nodi lansiad swyddogol ac ail-lansiad dwy ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol.
Mae'r Ganolfan Cymdeithasau Cyfrifol (CRiSis) yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol newydd sy'n edrych ar sut y gallai pobl, sefydliadau a llywodraethau ymddwyn mewn ffordd gymdeithasol, amgylcheddol a moesegol gyfrifol i sicrhau dyfodol cynaliadwy ein planed a'i phobl.
Gyda ffocws ar strategaethau lleol a rhanbarthol, nod y Ganolfan Menter Leol a Rhanbarthol (CLaRE) yw darparu tystiolaeth a dylanwadu ar bolisi ar ddatblygu economaidd cynaliadwy.
Wrth siarad cyn y gynhadledd, meddai’r Athro Andrew Thomas, Pennaeth Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Drwy weithio gyda chydweithwyr yn y ddwy ganolfan, rydyn am ddarparu tystiolaeth ymchwil ryngddisgyblaethol o'r radd flaenaf a fydd yn cefnogi llywodraethau, busnes a dinasyddion i ddatblygu ein heconomi a'n cymdeithas mewn ffordd sydd hefyd yn gwella lles pobl a'r amgylchedd naturiol rydyn ni'n byw ynddo.
“Yn ogystal â'n gweithgareddau ymchwil, rydym hefyd yn y broses o gyflwyno dwy raglen astudio israddedig newydd mewn 'Economeg a Newid Hinsawdd' a 'Busnes a Newid Hinsawdd', a rhaglenni MBA arbenigol mewn 'Cyfrifoldeb Corfforaethol a Chymdeithasol' a 'Logisteg Gwyrdd a Rheoli Cadwyn Gyflenwi '. Gyda’i gilydd, maent yn dangos ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i fodloni’r agenda cynaliadwyedd. ”
Cynhelir y digwyddiad yng nghanolofan gynadledda Medrus ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth a bydd yn rhedeg o 10:30 y bore tan 3:30 y prynawn.