Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol

Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth fydd yn cadeirio’r sesiwn yn y Senedd ddydd Sadwrn 28 Medi

Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth fydd yn cadeirio’r sesiwn yn y Senedd ddydd Sadwrn 28 Medi

25 Medi 2019

Fel rhan o ddathliadau nodi 20 mlynedd o ddatganoli, bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno sesiwn ar ‘Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol’, ddydd Sadwrn 28 Medi 2019 rhwng 11.00 a 12.30pm.

Cynhelir y sesiwn yn ystod ‘GWLAD, Gŵyl Cymru’r Dyfodol’, digwyddiad i ddathlu sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol sy’n agor yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw ac yn rhedeg tan ddydd Sul 29 Medi 2019.

Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth fydd yn cadeirio’r sesiwn a fydd yn cymharu a chloriannu strategaethau iaith llywodraethau rhanbarthol yn Ewrop a thu hwnt.

Dywedodd Dr Royles: “Bydd y sesiwn yn gyfle gwych i osod y datblygiadau yng Nghymru yn ystod dau ddegawd o ddatganoli i hybu rhagolygon yr iaith Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol. Byddwn yn clywed gan siaradwyr blaenllaw o Gymru, Gwlad y Basg a Chanada ac yn rhannu argraffiadau ar faterion megis rôl llywodraethau rhanbarthol, effeithiolrwydd strategaethau iaith swyddogol a rôl mudiadau cymdeithas sifil. Ymysg y cwestiynau allweddol fydd: Beth all Gymru ei ddysgu o achosion eraill, ac ym mha ffyrdd y mae Cymru wedi arwain y ffordd i eraill yn y cyfnod ers sefydlu llywodraeth ranbarthol?”

Ymhlith y siaradwyr bydd Alun Davies AC, cyn Weinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Graham Fraser, cyn Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada; Patxi Baztarrika, cyn Is-Weinidog Polisi Iaith, Llywodraeth Ymreolus Gwlad y Basg a’r Athro Colin Williams, Prifysgol Caerdydd.

Mae mynediad i’r sesiwn am ddim ac mae modd archebu tocyn ar lein yma.