Cyllid Comic Relief ar gyfer ymchwil dementia a cham-drin domestig

Aelodau o dîm Dewis Choice (o’r chwith i’r dde) rhes flaen: Elize Freeman, Rebecca Zerk, Sarah Wydall, Jose Owen; rhes gefn: Cara Fisher, Christopher Neville, David Cowsill, Tom Chapman a Ruth Jenkins

Aelodau o dîm Dewis Choice (o’r chwith i’r dde) rhes flaen: Elize Freeman, Rebecca Zerk, Sarah Wydall, Jose Owen; rhes gefn: Cara Fisher, Christopher Neville, David Cowsill, Tom Chapman a Ruth Jenkins

22 Awst 2019

Y cysylltiad rhwng dementia a cham-drin domestig fydd canolbwynt astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n edrych ar gam-drin mewn pobl hŷn.

Bydd yr astudiaeth 12 mis, sydd wedi denu cefnogaeth ariannol o £70,000 gan Comic Relief, yn archwilio cydfodolaeth cam-drin domestig a dementia mewn pobl sy’n 60 oed neu’n hŷn.

Caiff y gwaith ei wneud gan Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth fel rhan o’r prosiect ymchwil Dewis Choice a sefydlwyd yn 2015.

Bydd yr astudiaeth newydd yn ychwanegu at waith y ganolfan ar gam-drin domestig a phobl hŷn ac yn agor maes ymchwil newydd sydd wedi’i esgeuluso i raddau.

Yn ôl y Gymdeithas Alzheimer, mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU ac mae disgwyl i’r ffigwr godi i 1 miliwn erbyn 2025.

Dywedodd Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd prosiect Dewis Choice: “Dyma brosiect cyffrous ac unigryw sy’n adeiladu ar ein hymchwil blaenorol gyda phobl hŷn. Rydym yn ymwybodol fod dementia’n gwneud pobl hŷn yn fwy bregus a thebygol o ddioddef cam-drin economaidd, corfforol, rhywiol a seicolegol gan aelodau o’r teulu.

“Menywod sydd fwyaf tebygol o gael diagnosis dementia, ac hefyd o brofi cam-drin domestig. Pan fo gofalwyr yn gyfrifol am gam-drin domestig, gall goroeswyr benywaidd brofi ymddygiadau rheoli gorfodol, tra eu bod ar yr un pryd yn dod i delerau â diagnosis ac yn ymdopi gyda dirywiad yn ei galluoedd gwybyddol. Yn aml model sy’n cael ei arwain gan ddementia yw’r gefnogaeth maent yn ei dderbyn, sy’n ei gwneud yn anodd i ddatgelu niwed bwriadol i weithwyr proffesiynol.”

Dywedodd Elize Freeman, arweinydd gwasanaeth Dewis Choice: “Dyma’r prosiect ymchwil cyntaf yn y DU i edrych ar y mater yma ac adeiladu tîm arbenigol o gefnogaeth i’r unigolyn a’r teulu, lle bo’n ddiogel i wneud hynny. Bydd y cyllid yn gymorth i ddatblygu canllawiau newydd ar ddiogelwch a gwella ansawdd bywyd yn y cyd-destun hwn, ac yn cynnig mewnwelediadau manylach i ymchwil ym maes dementia a cham-drin domestig.”

Bydd y prosiect yn cynnal gweithdai hyfforddi ‘deall dementia’ mewn cymunedau lleol er mwyn cyfeirio pobl at yr astudiaeth.

Bydd rhagor o hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar berthnasau iach ac ymdopi, er mwyn sicrhau bod gan bobl y sgiliau i adnabod ac ymateb i achosion lle mae dementia a cham-drin domestig yn digwydd.

Ceir mwy o wybodaeth am brosiect Dewis Choice ar lein http://dewis.aber.ac.uk/neu ar Twitter @choiceolderppl.