Prifysgol Aberystwyth yn noddi Penwythnos Mawr Pride Cymru
22 Awst 2019
Prifysgol Aberystwyth yw un o brif noddwyr Penwythnos Mawr Pride Cymru sy’n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 23 – 25 Awst 2019.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r Brifysgol, a gafodd ei chynnwys ymhlith 100 cyflogwr gorau’r DU am gynhwysoldeb yn y gweithle gan Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, noddi’r digwyddiad.
Mae presenoldeb y Brifysgol yn Pride Cymru yn rhan o raglen lawn o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn sy’n ymwneud â rhwydwaith LGBTA Enfys Aber.
Dywedodd Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Chydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiad LGBT uchel ei broffil yr haf hwn, ac mae’n wych bod y Brifysgol yn un o noddwyr Pride Cymru eleni eto.”
Prifysgol Aberystwyth yw noddwr pecyn gwirfoddolwyr Pride Cymru a bydd pob gwirfoddolwr yn gwisgo crys-t wedi’i frandio â logo’r Brifysgol trwy gydol dathliadau’r penwythnos.
Ymhlith perfformwyr y penwythnos bydd Joel Dommett, Gok Wan, Shellyann Evans a Tina Cousins.
Mae gan Prifysgol Aberystwyth rwydwaith LGBT bywiog sy’n cwrdd unwaith y mis. Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mawrth 17 Medi yn y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais.