Cydnabod effaith ymchwil ym meysydd iechyd byd-eang a physgodfeydd cynaliadwy

Yr Athro Colin McInnes (chwith) gyda'r Athro Tim Woods a'r Athro Paul Shaw (dde) gyda Dr Anwen Jones yn derbyn eu Gwobrau am Effaith Eithriadol

Yr Athro Colin McInnes (chwith) gyda'r Athro Tim Woods a'r Athro Paul Shaw (dde) gyda Dr Anwen Jones yn derbyn eu Gwobrau am Effaith Eithriadol

21 Awst 2019

Mae dau aelod o staff sy'n gweithio ar brosiectau arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael eu gwobrwyo i gydnabod effaith gadarnhaol eu gwaith ymchwil, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.

Cyflwynwyd Gwobr Effaith Eithriadol mewn Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a'r Dyniaethau i'r Athro Colin McInnes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae ymchwil yr Athro McInnes wedi arwain at ddatblygu fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer iechyd sifiliaid drwy gydweithredu â sefydliadau milwrol pan geir achosion torfol o salwch.

Cyflwynwyd Gwobr Effaith Eithriadol mewn Ymchwil Gwyddonol i'r Athro Paul Shaw o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Mae’r Athro Shaw wedi bod yn defnyddio dulliau genynnol i gynorthwyo dulliau effeithiol a chynaliadwy o reoli pysgodfeydd.

Cyflwynwyd Gwobrau Effaith Eithriadol Prifysgol Aberystwyth yn ystod seremonïau graddio 2019 y Brifysgol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf yn Neuadd Fawr Canolfan Gelfyddydau'r Brifysgol.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae Gwobrau Effaith Eithriadol Prifysgol Aberystwyth, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2018, yn gydnabod cyflawniadau'r staff sy'n dangos yn eglur eu bod yn defnyddio eu hymchwil er lles y gymdeithas ehangach.  Llongyfarchiadau i'r enillwyr eleni sy'n gweithio ar ddau brosiect ymchwil gwahanol iawn i'w gilydd, a'r ddau yn dangos y potensial sydd gan y Brifysgol i ysgogi newid cadarnhaol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cydweithredu ar achosion torfol o salwch

Pan fo salwch yn lledu'n dorfol mae'n fygythiad i les yn genedlaethol ac yn fyd-eang, gan fygwth datblygu economaidd a diogelwch. Serch hynny, mae dadansoddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd wedi awgrymu bod llawer o wledydd heb y trefniadau ar waith i allu ymdrin ag achosion o'r fath.

Tua diwedd 2017, nododd Sefydliad Iechyd y Byd ei bod hi'n bosib y byddai gan sefydliadau milwrol ddigon o adnoddau gwerthfawr i allu gwella'r ymateb i achosion torfol o salwch, ond bod angen datblygu fframwaith fel y byddai'r gwasanaethau iechyd sifil a'r sefydliadau milwrol yn gallu cydweithredu â'i gilydd.

Dros y 12 mis diwethaf, mae'r Athro McInnes wedi drafftio'r fframwaith hwn i Sefydliad Iechyd y Byd, a fydd yn golygu ein bod mewn gwell sefyllfa o lawer wrth ymateb i achosion torfol o salwch ar draws y byd. 

Rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy

Mae ymchwil yr Athro Paul Shaw wedi canolbwyntio ar ddiffiniadau genynnol y strwythurau stoc mewn rhywogaethau sy'n cael eu pysgota drwy'r byd, gan gynnwys tiwna yn Ne Affrica, y dantbysgodyn ger ynysoedd y Falkland, ac yn nes adre, stoc benodol o ddraenog y môr oddi ar lannau Cymru ym Môr Iwerddon.

Mae ei waith wedi cyfrannu at newidiadau i sut y rheolir stociau sy'n cael eu pysgota, ac i sut mae Cyngor Stiwardiaeth y Môr yn diffinio stociau cynaliadwy.

Mae'r ymchwil hefyd wedi rhoi tystiolaeth i reolwyr pysgodfeydd sydd wedi'u helpu i lobïo awdurdodau cenedlaethol a rhyngwladol i'w hannog i newid rheoliadau.

Mae ei waith wedi arwain at ddulliau mwy cywir, ac felly'n fwy cynaliadwy, o bysgota stociau gwyllt, sy'n cyfrannu at ddiogelu cyflenwadau bwyd yn lleol ac yn fyd-eang ac at ddatblygiadau masnachol, ac ar yr un pryd yn helpu i gadw bioamrywiaeth a diogelu poblogaethau a rhywogaethau sydd dan fygythiad.