Ymchwil o Aberystwyth yn rhan o arddangosfa Kindertransport ym Merlin
William (Wolfgang) Dieneman, (dde) cyn Lyfrgellydd Prifysgol Aberystwyth gyda Tywysog Charles yn agoriad swyddogol Llyfrgell Hugh Owen.
14 Awst 2019
Bydd ymchwil gan academydd o Brifysgol Aberystwyth yn ymddangos mewn arddangosfa awyr agored yn Berlin i nodi 80 mlynedd Kindertransport.
Diolch i drenau Kindertransport, llwyddodd tua 10,000 o blant Iddewig yn bennaf i adael yr Almaen Natsïaidd yn 1938-39, cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd.
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Dr Andrea Hammel o Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn darganfod ac yn dogfennu straeon y rhai wnaeth ffoi.
Bydd pedair o’r straeon hynny yn ymddangos mewn arddangosfa newydd sy’n cael ei chynnal rhwng 16 Awst a 27 Hydref 2019.
Mae’r arddangosfa, ‘Am Ende des Tunnels’ (‘Ar ddiwedd y twnnel’), tu allan i orsaf reilffordd Berlin-Charlottenburg – un o’r gorsafoedd a ddefnyddiwyd gan fudiadau cymorth i Iddewon yr Almaen i roi plant ar y trenau a’u cludodd i’r DU.
Mae stori am fywyd y diweddar William Dieneman, cyn Lyfrgellydd Prifysgol Aberystwyth, ymhlith y rhai sy’n cael sylw.
Ganed Wolfgang Dienemann yn 1929, a gadawodd Berlin ar drên y Kindertransport ym mis Ionawr 1939 yn 9 oed.
Symudodd o un teulu maeth i’r llall am gyfnod cyn cael ei dderbyn i ysgol breswyl ym Mryste.
I lawer a deithiodd ar yr Kindertransport dyna’r tro olaf iddynt weld eu rhieni, ond bu William Dieneman yn ffodus; llwyddodd ei fam a’i dad i ddianc i Brydain cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd.
Roedd Ruth Parker ar yr un trên â William wrth iddynt adael Berlin a theithio i Brydain yn 1939. Bydd un o’i phlant yn rhoi darlleniad yn nigwyddiad lansio’r arddangosfa ar 15 Awst.
Cyn yr agoriad swyddogol, dywedodd Dr Hammel: “Er mawr syndod i mi, roedd Ruth a William ar yr un trên ym mis Ionawr 1939, ond yn anffodus daeth hyn yn hysbys yn rhy hwyr i William, a fu farw ym mis Medi 2018. Ar hyd y blynyddoedd bu William yn chwilio am eraill a deithiodd gydag ef i’r DU.
“Mae lle amlwg i’r Kindertransport wrth i’r Holocost gael ei goffáu’r yn y DU gan ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol â llywodraeth Prydain a dinasyddion Prydeinig. Dim ond nawr mae’n cael mwy o sylw cyhoeddus yn yr Almaen.”
Mae Dr Hammel wedi cydweithio ar yr arddangosfa gyda Phrifysgol Nottingham Trent, y Kommunale Galleri Berlin, Adran Ddiwylliant Charlottenburg-Wilmersdorf, Sefydliad Inge Deutschron a PhotoWerkBerlin.
Noddwr prosiect yr arddangosfa yw Syr Sebastian Wood, Llysgennad Prydain ym Merlin.
Yr arddangosfa ym Merlin yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau sy’n nodi pen-blwydd y Kindertransport.
Ar 15 Tachwedd 2018, bu Dr Hammel yn rhan o ddigwyddiad i goffáu’r Kindertransport yn Llundain a drefnwyd gan yr Arglwydd Alf Dubs, a gyrhaeddodd ar Kindertransport ei hun i’r DU yn chwech oed, a’i sefydliad Safe Passage sy’n ymgyrchu dros ffoaduriaid heddiw.
Ar 6 Rhagfyr 2018, mynychodd ddigwyddiad coffa ym Merlin a gynhaliwyd gan Swyddfa Dramor yr Almaen a Llysgenhadaeth Prydain.