Academydd o Brifysgol Aberystwyth yn ennill Gwobr Gwerddon

Dr Lowri Cunnington Wynn o Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth yn derbyn tlws Gwobr Gwerddon

Dr Lowri Cunnington Wynn o Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth yn derbyn tlws Gwobr Gwerddon

07 Awst 2019

Dr Lowri Cunnington Wynn o Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth, yw enillydd Gwobr Gwerddon eleni.

E-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw Gwerddon. Mae’n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd gwreiddiol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.

Erthygl Lowri – ‘“Beth yw’r ots gennyf i am Gymru?”: Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg’ – a ddaeth i’r brig eleni. Mae’n trafod allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Dyfernir Gwobr Gwerddon bob dwy flynedd i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Lowri’n derbyn tlws, a gwobr o £100 sydd yn rhoddedig gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Cyflwynwyd y wobr i Lowri yn ystod derbyniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher 7 Awst.  

Dywedodd Dr Lowri Cunnington Wynn, sydd yn ddarlithydd cyfrwng Cymraeg mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Braint o’r mwyaf oedd derbyn Gwobr Gwerddon eleni. Mae’r ymateb i’r erthygl wedi bod yn frwd a chefnogol, gyda’r adwaith mwyaf gan aelodau o’r cyhoedd sy’n uniaethu gyda’r pwnc. Yn ogystal, gan fod y testun yn un amserol a phwysig, mae’r erthygl wedi denu sylw ysgolheigion a’r cyfryngau, sydd wedi bod yn hwb personol enfawr.

“Yn wir, mae cyhoeddi yn Gwerddon wedi rhoi hyder i mi fel academydd ac mae’r tîm golygyddol wedi bod yn gefnogol tu hwnt. Y gobaith yw adeiladu ar y llwyddiant yma a diolchaf yn fawr i bawb o Gwerddon am y cyfle arbennig hwn.”

Dywedodd golygydd Gwerddon, Dr Anwen Jones sy’n Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Ar ran Bwrdd Golygyddol Gwerddon, mae’n bleser gan Dr Hywel Griffiths a minnau ddyfarnu Gwobr Gwerddon i ddarlithydd ifanc ac ymchwilydd gyrfa gynnar disglair sydd wedi apelio at ystod eang o ddarllenwyr Gwerddon gydag erthygl academaidd mor amserol a perthnasol i bresennol a dyfodol Cymru’r unfed ganrif ar hugain.

“Roedd y gystadleuaeth yn frwd a derbyniwyd llu o enwebiadau am erthyglau ar draws ystod eang o feysydd ond, wedi hir bwyso a mesur, daeth cyfraniad Lowri i’r brig yn ddiamheuol.”

Ychwanegodd Dr Jones: “Mae Gwerddon yn ymfalchio mewn meithrin cyhoeddiadau ysgolheigaidd gan gyfranwyr ym mhob cyfnod o’u gyrfaoedd dros Gymru a thu hwnt ond rydym yn arbennig o falch o’r cyfle hwn, gyda chefnogaeth hael Cymdeithas Ddysgedig Cymru, i wobrwyo a dathlu cyrhaeddiad ymchwilydd gyrfa gynnar fel Lowri. Llongyfarchiadau calonog iddi a phob dymuniad da i’r dyfodol.”

Ymhlith Bwrdd Golygyddol Gwerddon mae dau aelod o staff Prifysgol Aberystwyth sef y golygydd, Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol a’r Is-olygydd, Dr Hywel Griffiths o’r Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear.