Galw ar i lywodraethau ystyried effeithiau datblygu economaidd ar ieithoedd lleiafrifol

Dr Elin Royles a Dr Huw Lewis, dau o awduron yr adroddiad ‘Hybu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol mewn oes fyd-eang’.

Dr Elin Royles a Dr Huw Lewis, dau o awduron yr adroddiad ‘Hybu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol mewn oes fyd-eang’.

07 Awst 2019

Dylai llywodraethau roi mwy o bwyslais ar ddeall sut mae datblygu economaidd yn effeithio ar ieithoedd lleiafrifol os yw’r Gymraeg ac ieithoedd tebyg am ffynnu, yn ôl ymchwilwyr o brifysgolion Aberystwyth a Chaeredin.

Mae’r alwad yn un o 14 o argymhellion mewn adroddiad ar hybu ieithoedd lleiafrifol a fydd yn cael ei lansio ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Iau 8 Awst 2019.

Ffrwyth gwaith rhwydwaith ymchwil Adfywio yw ‘Hybu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol mewn oes fyd-eang’.

Sefydlwyd y rhwydwaith yn 2017 i astudio goblygiadau newidiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cyfoes yn sgil globaleiddio i’n dealltwriaeth o’r modd y dylid llunio a gweithredu ymdrechion i adfywio iaith.

Yn ogystal ag effaith datblygu economaidd, mae’r adroddiad yn mynd i’r afael â throsglwyddo iaith rhwng cenedlaethau mewn teuluoedd, mudo rhyngwladol, amlddiwylliannedd a’r cydbwysedd rhwng rôl llywodraethau a mudiadau cymdeithas sifil. 

Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Dr Huw Lewis o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth: “Bu sawl ymdrech gan lunwyr polisi yng Nghymru, yr Alban a thu hwnt yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ystyried sut all y defnydd o iaith leiafrifol hybu perfformiad economaidd - er enghraifft, a yw'r gallu i siarad iaith leiafrifol yn hybu rhagolygon gwaith unigolion a'u henillion posib, neu a yw defnydd cwmniau mewn sectorau gwahanol o ieithoedd lleiafrifol yn hybu eu proffil marchnad neu eu trosiant.

“Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn ystod y prosiect bod diffyg ystyriaeth wedi bod, hyd yma, i'r modd mae prosesau economaidd yn dylanwadu ar hyfywedd cymunedau iaith. Er enghraifft, sut yn benodol mae datblygiadau economaidd mewn ardal benodol neu strategaethau datblygu economaidd rhanbarthol yn effeithio ar iaith, naill ai o ran y nifer o siaradwyr, eu dwysedd daearyddol, neu eu tuedd i ddefnyddio'r iaith.

“O'r holl heriau polisi a gafodd eu hastudio yn ystod y prosiect, dyma'r mwyaf sylfaenol i ddyfodol ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg, ond eto dyma'r un lle mae'r ddealltwriaeth gyfredol, yma yng Nghymru, a hefyd yn rhyngwladol, ar ei wanaf. Mae galw felly ar i lywodraethau flaenoriaethu'r maes ar fyrder”, ychwanegodd.

Bydd Dr Lewis a Dr Elin Royles yn trafod yr argymhellion mewn dwy sesiwn arbennig ar stondin y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ddydd Iau 8 Awst am 12:00 bydd Dr Lewis yn trafod y cysylltiad rhwng datblygu economaidd ac adfywio iaith yng nghwmni’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian ac Edward Jones o Brifysgol Bangor. Cadeirydd y sesiwn fydd Emyr Lewis, darpar Bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.

Yna, Ddydd Gwener 9 Awst am 12:00 bydd Dr Royles yn trafod cydbwyso rôl llywodraeth a mudiadau cymdeithas sifil mewn adfywio iaith gydag Elin H G Jones o Ganolfan Mercator, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Meirion Davies o Menter Iaith Conwy. Cadeirydd y sesiwn fydd Rhian Huws Williams, Aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Mae Adfywio yn cael ei arwain gan Dr Lewis, Dr Royles a’r Athro Wilson McLeod o Brifysgol Caeredin, a’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau - yr AHRC.

Rhwng Mai 2017 a Chwefror 2019 cynhaliodd y rhwydwaith gyfres o bedwar gweithdy yn Aberystwyth, Caeredin a Chaerdydd.

Y nod oedd dwyn ynghyd groestoriad o ymchwilwyr academaidd ym meysydd y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, ynghyd â nifer o ymarferwyr polisi iaith blaenllaw ac aelodau o fudiadau cymdeithas sifil sy’n gweithio ym maes adfywio iaith yn rhyngwladol i drafod goblygiadau’r newidiadau cymdeithasol.

Yna, ym mis Ebrill 2019, cynhaliwyd cynhadledd ym Mrwsel ar y cyd â’r Rhwydwaith Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol, â chyfraniadau gan gynrychiolwyr o’r Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a nifer o lywodraethau rhanbarthol sy’n weithgar ym maes hybu ieithoedd lleiafrifol.

Lansio’r adroddiad terfynol yn yr Eisteddfod fydd penllanw’r gwaith a’r nod yw cynnal trafodaethau pellach mewn cenhedloedd eraill yn Ewrop sy’n hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol neu ranbarthol.

Ceir rhagor o wybodaeth am rwydwaith Adfywio ar wefan y prosiect https://revitalise.aber.ac.uk/cy.