‘Tu hwnt i’r GIG: Yw Iechyd wir yn ‘Fyd-eang’?’

Yr Athro Colin McInnes, Cadeirydd UNESCO mewn Addysg HIV/AIDS a Diogelwch Iechyd yn Affrica ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Colin McInnes, Cadeirydd UNESCO mewn Addysg HIV/AIDS a Diogelwch Iechyd yn Affrica ym Mhrifysgol Aberystwyth

26 Chwefror 2019

Mae'r ddarlith hon wedi ei gohirio. Bydd dyddiad newydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

Gallu clefydau i symud yn gyflym ar draws ffiniau a chyfandiroedd mewn oes fyd-eang ac adfywiad cenedlaetholdeb fydd canlbwynt darlith gyhoeddus Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 12 Mawrth 2019.

Traddodir ‘Beyond the NHS: Is Health Really ‘Global’?’ gan yr Athro Colin McInnes, o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol y Brifysgol.

Yn ei ddarlith bydd yr Athro McInnes yn dadlau bod y naratif bod ‘iechyd yn fyd-eang’ wedi datblygu’n beth cyffredin yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gan herio’r syniad o wasanaeth iechyd ‘cenedlaethol’, sy’n gallu bodloni gofynion dinasyddion.

“Mae gallu clefydau i symud yn gyflym ar draws ffiniau a chyfandiroedd, symudedd y gweithlu iechyd, a natur rhyngwladol cwmnïau fferyllol oll yn elfennau ar dirwedd newydd sy’n awgrymu na ellir pennu na llywodraethu iechyd ar lefel genedlaethol. Yn hytrach mae angen atebion byd-eang ar iechyd byd-eang”, dywedodd yr Athro McInnes.

Serch hynny, bydd yr Athro McInnes hefyd yn awgrymu bod y naratif nid yn unig wedi’i or-bwysleisio, ond bod datblygiadau mwy diweddar yn ei danseilio ymhellach. Nid lleiaf, mae ail-ymddangosiad cenedlaetholdeb yn cynnig naratif sy’n cystadlu â globaleiddio, tra bod syniadau newydd am ‘iechyd planedol’ yn awgrymu y gallai fod angen ehangu safbwyntiau tu hwnt i’r byd-eang.

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Prifysgol Aberystwyth am 6yh.

Trefnir y digwyddiad fel rhan o gyfres darlithoedd Dyfodol Ein Hiechyd: Cymdeithas Ddysgedig Cymru i nodi pen-blwydd arbennig y GIG yn 70.

Yn ddiweddar, etholwyd yr Athro Colin McInnes yn Gadeirydd Cenedlaethol Comisiwn y DU i UNESCO a derbyniodd Gwobr Cyflawniad Arbennig yng Ngwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru yn 2017.

Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar faterion iechyd a diogelwch byd-eang ac wedi cynghori Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygu strategaeth iechyd ryngwladol a Cyngor InterAction ar faterion iechyd byd-eang.

Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2010 er mwyn cydnabod a chynrychioli rhagoriaeth a hyrwyddo ysgolheictod ac ymchwil yng Nghymru wrth werthfawrogi’r dimensiwn cenedlaethol a bydol. Mae ganddi fwy na 500 o Gymrodyr a etholwyd mewn cydnabyddiaeth o’u rhagoriaeth academaidd.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen cofrestru. Croeso i bawb.