Cysylltiadau ymchwil newydd gyda Patagonia

Patagonia lle bydd yr Athro Stephen Tooth a Dr Hywel Griffiths yn ymchwilio i afonydd, gwlypdiroedd a’r berthynas rhwng dyn a’r tirwedd, gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig

Patagonia lle bydd yr Athro Stephen Tooth a Dr Hywel Griffiths yn ymchwilio i afonydd, gwlypdiroedd a’r berthynas rhwng dyn a’r tirwedd, gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig

22 Chwefror 2019

Bydd dau ddaearyddwr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i Batagonia’r Ariannin ym mis Mawrth 2019 i adeiladu cysylltiadau ymchwil agosach gyda’r rhanbarth.

Mae’r Athro Stephen Tooth a Dr Hywel Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol wedi derbyn Grant Cysylltiadau Addysg Uwch gan y Cyngor Prydeinig i ddatblygu cysylltiadau gydag ymchwilwyr yn Universidad Nacional de la Patagonia San Juan Bosco (Prifysgol Genedlaethol Patagonia).

Yn ystod eu taith, byddant yn cynnal cyfres o weithdai a sgyrsiau gydag academyddion, swyddogion y llywodraeth, myfyrwyr prifysgol ac addysg uwch, a’r Gymdeithas Gymraeg leol.

Canolbwynt eu hymweliad fydd ardaloedd yn nwyrain Patagonia’r Ariannin lle mae’r Sbaeneg a’r Gymraeg yn cael eu siarad, gan gynnwys campysau Universidad Nacional de la Patagonia yn Nhrelew a Phorth Madryn. Mae gan y brifysgol hefyd gampysau yn Esquel i’r gorllewin a Comodoro Rivadavia i’r de.

Bydd y daith yn adlewyrchu ymchwil yr Athro Tooth a Dr Griffiths ar afonydd, gwlypdiroedd a’r berthynas rhwng dyn a’r tirwedd yn Affrica, Awstralia a’r America, yn ogystal â Chymru.

Dywedodd yr Athro Stephen Tooth: “Bwriad yr ymweliad yw adeiladu rhwydwaith academaidd ar gyfer rhannu gwybodaeth a sgiliau, ac i fedru cymhwyso ein hymchwil ar y cyd er mwyn mynd i’r afael â heriau byd-eang megis gwella diogelwch dŵr a rheoli perygl o lifogydd. Rydym yn gobeithio hefyd i adeiladu ymhellach ar y cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Patagonia, ac rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor Prydeinig am y gefnogaeth sydd wedi gwneud hyn yn bosib.”   

Dywedodd Dr Hywel Griffiths: ”Mae Stephen a minnau’n ymwneud ag ymchwil sy’n edrych ar sut mae newid hinsawdd a phwysau defnydd tir yn bygwth dyfodol afonydd a gwlypdiroedd. Mae peth o’n gwaith yn cael ei wneud ar ucheldiroedd Cymru, ac er bod yr ardaloedd hyn yn wahanol iawn o ran hinsawdd, mae yna nodweddion tebyg amlwg i rai o’r heriau a wynebir. Gall cydweithio fod o fudd i’r ddwy wlad.”

Dywedodd Mary Godward, Cyfarwyddwr Gwlad y Cyngor Prydeinig yn yr Ariannin: “Mae rhaglen Cysylltiadau Addysg Uwch y Cyngor Prydeinig wedi’i hanelu at brifysgolion yn yr Ariannin a’r DU, sy’n ceisio adeiladu partneriaethau hir dymor rhwng y ddwy wlad. Mae’r rhaglen yn darparu cyllid cychwynnol i brifysgolion ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar y cyd gydag effaith gymdeithasol. Mae’n bleser gennym y tro hwn gefnogi datblygiad cyswllt ymchwil rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Genedlaethol Patagonia, gan adeiladu ar y cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol sydd eisoes yn bodoli rhwng Cymru a Patagonia. Mae’r prosiect yn enghraifft wych hefyd o ymchwil ar y cyd sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau byd-eang pwysig.”

Yr Athro Tooth yw Cadeirydd Cymdeithas Pobl mewn Partneriaeth Aberystwyth ac Esquel, pwyllgor gefeillio sy’n cynnal cysylltiadau rhwng y ddwy dref ac sy’n dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2019.

I nodi’r achlysur, bydd dangosiad o’r ffilm ‘Patagonia’ gyda Matthew Rhys am 7yh nos Fercher 27 Chwefror 2019 yn Amgueddfa Ceredigion, a chyflwyniad gan yr Athro Tooth.