Maleisia, Gwir Asia! Noson Maleisia Aberystwyth 2019
Noson Faleisaidd Aberystwyth 2018
14 Chwefror 2019
Mae Noson Faleisaidd flynyddol Aberystwyth, nos Sadwrn 23 Chwefror, yn addo bod yn noson arbennig o adloniant a fydd yn rhoi llwyfan i gyfoeth diwylliannol Maleisia.
Trefnir y noson Maleisia, Gwir Asia! gan Gymdeithas Myfyrwyr Maleisaidd y Brifysgol, ac mae'n mynd i fod yn noson i'w chofio o berfformiadau a bwydydd gwirioneddol draddodiadol o Faleisia.
Dywedodd Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn hynod falch o'i chysylltiau hir sefydlog â Maleisia sy'n mynd yn ôl i 1948 pan ddaeth y cyntaf o'n myfyrwyr Maleisaidd i astudio'r Gyfraith. Ers hynny mae cannoedd o fyfyrwyr wedi dod o Faleisia i astudio yn Aberystwyth, gan ddod â bwrlwm eu diwylliant gyda nhw i lannau Ceredigion.
“Mae Noson Maleisia yn dathlu'r myfyrwyr hyn a'u gwlad. Bydd amrywiaeth o berfformiadau ar y noson, gan gynnwys canu a dawnsio traddodiadol mewn gwisgoedd lliwgar yn ogystal â pherfformiadau mwy cyfoes. Heb anghofio'r bwyd Maleisaidd a gynigir yn rhan o'r noson - agwedd bwysig iawn o ddiwylliant Maleisia, ac yn bendant yn werth rhoi cynnig arno!
Mae'r myfyrwyr wedi gweithio mor galed i gynnal achlysur arbennig, a gobeithio y bydd llawer o fyfyrwyr, staff a phobl leol yn dod i'w cefnogi. Dewch draw i gael blas ar Faleisia!”
Cynhelir Maleisia, Gwir Asia! am 6 yr hwyr, nos Sadwrn 23 Chwefror yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Bydd tocynnau, sy'n cynnwys pryd o fwyd Maleisaidd, ar gael o'r Swyddfa Docynnau ar 01970 623232 neu o wefan Canolfan y Celfyddydau
www.aberystwythartscentre.co.uk/festivals/malaysia-truly-asia
Bydd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn dathlu a hyrwyddo holl gyfoeth ac amrywiaeth diwylliannau a chenhedloedd cymuned ei myfyrwyr rhyngwladol yn ei gŵyl Wythnos Un Byd a gynhelir rhwng 4 ac 8 Mawrth 2019.
Trefnir Wythnos Un Byd gan Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol ac erbyn hyn mae'n achlysur blynyddol sydd wedi hen ymsefydlu yng nghalendr y Brifysgol. Mae'n dathlu amrywiaeth eang diwylliannol y Brifysgol a'r cyfraniad y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei wneud i'r Brifysgol a'r gymuned leol.