Prifysgol Aberystwyth yn noddi Cows On Tour

Aelodau o griw Cows on Tour gyda’r uwch fridiwr glaswellt Alan Lovatt yn y lleiniau arddangos glaswellt yng Ngogerddan.

Aelodau o griw Cows on Tour gyda’r uwch fridiwr glaswellt Alan Lovatt yn y lleiniau arddangos glaswellt yng Ngogerddan.

12 Chwefror 2019

IBERS Prifysgol Aberystwyth (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) yw prif noddwr Cows On Tour 2019.

Grŵp o ffermwyr ifanc sy'n frwdfrydig am fwyd a ffermio yw Cows On Tour.

Ers 5 mlynedd mae'r criw wedi bod yn mynd â chlos y fferm i iard yr ysgol, trwy fynd â da byw a pheiriannau i drafod o ble y daw ein bwyd.

Gyda chymorth IBERS Prifysgol Aberystwyth, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a NFU Cymru, mi fydd Sioe Deithiol Cows On Tour yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru yn ystod mis Mai 2019 i siarad am fwyd a ffermio.

Byddant yn Aberystwyth ddydd Mercher 15 Mai.

Trefnir digwyddiadau elusennol gyda’r nos ym mhob lleoliad i godi arian ar gyfer Sefydliad RABI a’r DPJ Foundation wrth hyrwyddo bwyd lleol yng Nghymru.

Meddai Matthew Shervington-Jones, Cadeirydd Cows On Tour: “Yn ystod camau cynllunio’r daith roeddem i gyd yn cytuno bod angen partner sector addysg arnom, ac yn gwybod yn union pwy oedd yn rhaid iddo fod!

“Pwrpas Cows On Tour yw dysgu'r genhedlaeth nesaf am eu bwyd a sut rydym yn ei gynhyrchu ar eu cyfer. Mae IBERS Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad sy'n arwain y byd gyda ffocws brwd ar amaethyddiaeth, yr amgylchedd, planhigion ac anifeiliaid. Maent yn gyfranwyr hanfodol i gynhyrchu bwyd.

“Rydym yn gwybod taw dyma’r bartneriaeth berffaith ar gyfer Sioe Deithiol Cows On Tour.”

Dywedodd Dr Mike Rose, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu IBERS: “Mae tîm Cows On Tour yn griw o bobl ifanc brwdfrydig a deinamig sy'n falch o fod yn rhan o’r diwydiant amaeth yng Nghymru, yn ymroddedig i’w gynrychioli, ac i adrodd y stori amaethyddol.

“Mae IBERS Prifysgol Aberystwyth yn addysgu a hyfforddi ffermwyr y dyfodol, gan gynnig ystod eang o gyrsiau i baratoi myfyrwyr ar gyfer diwydiant sydd yn newid yn y DU a thu hwnt.

“Mae llawer o'n prosiectau ymchwil yn cefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy trwy ymateb i’r heriau o sicrhau’r cyflenwad bwyd, newid hinsawdd a chynhyrchu ynni yn y dyfodol, ac yn 2019 rydym yn dathlu 100 mlynedd o arbenigedd bridio planhigion arobryn byd-enwog.

“Rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio â Cows On Tour. "