Coleg Cymraeg yn penodi llysgenhadon o Brifysgol Aberystwyth
Llysgenhadon y Coleg Cymraeg o Brifysgol Aberystwyth (o'r chwith i'r dde): Emily, Ffion, Aled, Martha a Lowri
29 Ionawr 2019
Mae pum myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi eu penodi’n llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2019.
Bydd Emily Mary Bennett, Ffion Caryl Evans, Lowri Glyn Jones, Martha Grug Dafydd Morse ac Aled Llwyd Jones yn dechrau ar eu gwaith fis yma (Ionawr 2019) ac yn ymuno â thîm o 25 llysgenhad o saith Prifysgol ar draws Cymru.
Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd annog mwy o ddisgyblion ysgol i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o wneud hynny.
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau megis ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau ar flog ac ar amryw sianel cyfryngau cymdeithasol y Coleg.
Llais y Llysgennad yw’r blog sy’n rhoi darlun o fywyd fel myfyriwr Cymraeg ar ffurf fideo, lluniau a sgwrs.
Gellir dilyn blog llysgenhadon y Coleg Cymraeg yma â gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg.
Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru.
Mae’n noddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am y tro cyntaf eleni, cafodd y llysgenhadon eu dewis drwy gyfweliad yn ogystal â ffurflen gais.