Gwyddonwyr o Aber yn profi tracwyr ffitrwydd

Dr Rhys Thatcher

Dr Rhys Thatcher

28 Ionawr 2019

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn profi cywirdeb tri traciwr ffitrwydd poblogaidd ar gyfer rhaglen deledu materion defnyddwyr BBC Wales.

Cafodd Dr Rhys Thatcher, Darllenydd mewn Ffisioleg Ymarfer Corff yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) gomisiwn gan raglen BBC One Wales X-Ray i brofi’r Fitbit Charge 2, Letscom HR aLetsfit.

Dr Thatcher sy’n arwain yr Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) yn IBERS sy'n astudio’r ffordd y mae newidiadau i ffordd o fyw, gweithgaredd corfforol a diet yn llesol i iechyd a rheoli cyflyrau cronig.

Bu Dr Thatcher a chydweithwyr yn gweithio gyda 12 o gyfranogwyr - 6 o ddynion a 6 benywaidd – er mwyn profi’r tri traciwr ffitrwydd mwyaf poblogaidd.

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr gerdded am ddeng munud ar 4km yr awr ac yna rhedeg am ddeng munud ar 8km yr awr, y cyfan ar felin-gerdded.

Gan ddefnyddio techneg calorimetreg anuniongyrchol, roedd y tîm yn gallu cyfrifo faint o ocsigen a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymarferion.

Dywedodd Dr Rhys Thatcher: "Mae yna berthynas uniongyrchol rhwng faint o egni y mae rhywun yn ei ddefnyddio a faint o ocsigen maent yn ei losgi. Os ydych chi'n gwybod faint o ocsigen rydych chi wedi'i losgi, yna gallwn wybod yn fanwl faint o galorïau rydych chi wedi eu defnyddio wrth ymarfer.

“Ar gyflymder cerdded o 4km, y Letsfit (2.6%) oedd agosaf ar gyfer rhagweld faint o galorïau a losgwyd, ac yna’r Letscom HR a oedd 15.7% yn fwy na’r hyn a ragwelwyd, ac yna’r Fitbit a oedd 53.5% yn uwch.

“Roedd hyn yn wahanol ar gyflymder o 8km. Y Fitbit oedd agosaf gyda rhagamcan o 4.3%, ac yna’r Letscom HR a'r Letsfit ar 33.4% a 40.1%.

“Roedd y tri traciwr ffitrwydd yn well wrth ragweld defnydd egni cyfranogwyr benywaidd ar y ddau gyflymder.”

Yn ôl Dr Thatcher nid yw cywirdeb tracwyr ffitrwydd mor bwysig wrth ystyried y manteision iechyd maent yn eu cynnig.

“Mae rôl bendant i dracwyr ffitrwydd wrth wella iechyd. Rydym ni i gyd yn hoffi gweld ein hunain yn camu ymlaen; mae'n rhaid ichi ddehongli'r data gyda gofal - nid ydynt yn fesuriadau uniongyrchol. Fodd bynnag, gallant fod yn ddefnyddiol i gymharu'r hyn rydych chi'n ei wneud heddiw gyda'r hyn a wnaethoch ddoe, beth rydych chi'n ei wneud yr wythnos hon o'i gymharu â'r wythnos ddiwethaf, er mwyn i chi weld dilyniant. Gall hynny fod yn gymhelliant gwych i helpu pobl i gadw at raglen ymarfer corff.”

“Mae ymarfer corff yn un o’r prif ddylanwadau ar iechyd. Mae cynyddu lefelau gweithgaredd yn bwysig; mae taith gerdded 5 munud yn well na dim, ac mae taith gerdded 10 munud yn well na cherdded 5 munud. Mae manteision i'w cael o wneud mwy o ymarfer corff.”

Roedd yr astudiaeth yn ran o raglen X-Ray BBC One Wales nos Lun 28 Ionawr 2019 am 7.30 yr hwyr.

Gallwch wylio'r rhaglen ar BBC iPlayer hyd ddiwedd mis Chwefror.