Prifysgol Aberystwyth yng 100 uchaf Stonewall eto
Mae Prifysgol Aberystwyth ar restr 100 Cyflogwr Uchaf Stonewall am yr ail flwyddyn yn olynol.
21 Ionawr 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i henwi yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol y DU gan elusen cydraddoldeb Stonewall ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Cyhoeddwyd rhestr y 100 Cyflogwr Uchaf gan Stonewall ddydd Llun 21 Ionawr 2019 ac fe welwyd y nifer uchaf erioed o gyflogwyr, sef 445, yn ymgeisio eleni.
Bellach yn ei bymthegfed flwyddyn, mae’r arolwg blynyddol yn casglu ymatebion gan dros 92,000 o weithwyr dienw ar draws y DU am eu profiad o ddiwylliant ac amrywioldeb yn y gweithle.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure; “Rydym yn ymrwymedig i feithrin cydraddoldeb ac amrywioldeb ar draws y Brifysgol, gan greu cymuned gynhwysol ar gyfer ein holl staff yn ogystal â’n myfiwyr, ein rhanddeiliaid a’n hymwelwyr. Rydym yn falch iawn i gyrraedd rhestr Stonewall o’r can cyflogwr gorau am yr ail flwyddyn o’r bron ond nid ydym yn llaesu dwylo ac rydym yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo polisïau sy’n sicrhau bod pobl yn ffynnu ac yn rhydd i fod yn nhw eu hunain.”
Caiff rhestr 100 Uchaf Stonewall ei seilio ar gyflwyniadau i’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle - dull meincnodi pwerus a ddefnyddir gan gyflogwyr i asesu eu cyflawniadau a’u cynnydd ar gydraddoldeb lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn y gweithle, yn ogystal â’u gwaith ehangach yn y gymuned a darpariaeth eu gwasanaeth.
Rhaid i bob sefydliad ddangos arbenigedd mewn deg o feysydd polisi ac arferion cyflogaeth, gan gynnwys grwpiau rhwydweithio, uwch arweinyddiaeth, caffael, a’u hymgysylltiad gyda chymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Stonewall, Darren Towers: “Mae Prifysgol Aberystwyth a phawb sydd wedi cyrraedd rhestr y 100 Cyflogwr Uchaf eleni yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i lefydd gwaith, gwasanaethau a chymunedau ar draws y DU. Mae cyflogwyr LGBT cynhwysol yn chwarae rhan allweddol o safbwynt newid cymdeithas drwy ddefnyddio’u pŵer a’u dylanwad i amddiffyn a chefnogi pobl lesbiaidd, hoyw a thrawsrywiol.”
“Mae dros un ymhob tri (35%) o weithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn cuddio’u hunaniaeth yn y gwaith am eu bod yn poeni am ragrith; mae hynny’n cael effaith ar lefelau cynhyrchu, llesiant a mwy ac yn dangos bod gennym dipyn o waith i’w wneud eto. Serch hynny, gyda sefydliadau fel Prifysgol Aberystwyth yn dangos ymrwymiad mor gryf i gydraddoldeb LGBT, rydym gam arall yn nes at greu byd lle mae gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn cael eu croesawu a’u derbyn yn ddi-wahan.”
Mae gan Brifysgol Aberystwyth Rhwydwaith LGBT sy’n cwrdd yn fisol, mae’n un o brif noddwyr Penwythnos Mawr Pride Cymru, ac mae’n trefnu cynhadledd flynyddol ar faterion trawsrywiol yn ogystal â digwyddiadau eraill.