Meillion Coch arloesol i Gymru
Bridio meillion coch yn IBERS
04 Ionawr 2019
Mae ymchwil newydd ar waith yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth i sicrhau y gallai rhagor o ffermwyr da byw Cymru elwa o feillion coch sy’n para’n hirach ac yn gallu gwrthsefyll clefydau.
Mae’r prosiect tair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru (LlC) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yn ystyried dulliau i wella cynhyrchu a defnyddio protein ar ffermydd yng Nghymru trwy gyfrwng cnydau porthiant gwell.
Mae’r Athro Leif Skot, pennaeth bridio planhigion porthiant yn IBERS, yn arwain y prosiect, ac mae’r partneriaid yn cynnwys LlC, ERDF, Germinal Holdings, HCC a Cyswllt Ffermio.
Fel rhan o’r prosiect, mae’r Athro Skot a’i dîm yn ystyried sut gellir gwella cynhyrchu a hirbarhad meillion coch, gan helpu ffermwyr i wella gwerth eu cnwd silwair. Gallai hyn yn ei dro gyfrannau at leihau’r angen i ffermwyr brynu dwysfwydydd drud.
Yn hanesyddol, mae rhai cynhyrchwyr wedi bod yn amharod i ddefnyddio meillion coch oherwydd tueddiad iddynt for yn llai cynhyrchiol ar ôl dwy flynedd. Er mwyn datrys hyn mae gwyddonwyr wedi datblygu mathau o feillion coch gan roi sylw i gynhyrchu rhagor a gwell hirbarhad fel eu bod yn cynhyrchu’n dda yn ystod eu pedwerydd a’u pumed cynhaeaf.
Fodd bynnag, mae estyn oes gynhyrchiol y planhigion yn cynyddu’r perygl o broblem arall a wynebir gan feillion coch, a dyna sy’n cael sylw ‘r prosiect newydd hwn ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Athro Skot: “Un o’r anawsterau mwyaf yw’r ffaith fod meillion coch yn dioddef o gael eu sathru, ac os caiff y planhigion eu niweidio, mae’n yn dueddol o ddal clefydau. Mae meillion gwyn yn stolonog, sy’n golygu ei fod yn tyfu trwy gyfrwng stolonau [gwreiddiau bychan] sy’n lledaenu ar draws wyneb y pridd ac yn caniatáu i’r planhigion lenwi unrhyw fylchau yn y borfa. Ar y llaw arall, mae planhigion meillion coch yn tyfu o un pwynt tyfu, y corun. Felly, pan fydd y corun wedi’i niweidio a’r planhigyn yn marw oherwydd clefyd, ni all y planhigion sy’n weddill wneud yn iawn am hynny a llenwi’r bylchau, ac o’r herwydd yn llai cynhyrchiol.”
I geisio datrys hyn, mae’r Athro Skot a’i dîm yn datblygu’r gallu i wrthsefyll y ddau brif glefyd sy’n gyfrifol am golledion mewn cnydau meillion coch: Nematod y Coesyn a Phydredd y Corun (Sclerotinia).
Maent yn gobeithio datblygu planhigion gwytnach a chynhyrchiol trwy ddatblygu planhigion sy’n gallu gwrthsefyll clefydau.
“Mae Nematod y Coesyn a Sclerotina yn bathogenau a gludir mewn pridd, ac nid oes gennym ni unrhyw ddull cemegol cydnabyddedig o’u rheoli. Yr ateb ar hyn o bryd yw bwlch hir yn y cylchdro cnydau i leihau perygl posibl y broblem,” ychwanega Paul Billings o Germinal. “Mae’r prosiect ymchwil hwn yn ystyried a allwn ni ddewis deunydd sy’n gallu gwrthsefyll y ddau glefyd yn well, ac yna eu cyfuno i greu mathau sy’n gallu gwrthsefyll y ddau bathogen.”
Dywed yr Athro Skot ei fod ef a’i dîm wedi tyfu sawl cenhedlaeth o feillion coch i allu dethol mathau sy’n gallu gwrthsefyll Nematod y Coesyn a Sclerotinia. Maent bellach yn barod i fynd ati i gyfuno’r gallu i wrthsefyll y clefydau i un boblogaeth, fel gellir ei phrofi yn y maes.
Mae meillion coch yn cynhyrchu cnwd sylweddol ac yn cynhyrchu porthiant rhagorol o’r flwyddyn gyntaf, ond mae angen ei reoli mewn modd a wnaiff wella ei allu i wrthsefyll clefydau, ychwanega’r Athro Skot.
“Mae corun y planhigyn yn dueddol o gael ei niweidio, felly rydym ni’n ystyried sut i wella strwythur y corun. Yn ôl ein hymchwil, os oes ganddynt gorunau cryno, gallant wrthsefyll niwed gan beiriannau a chael eu cywasgu gan anifeiliaid neu bori yn well. Y dull rheoli amlycaf yw peidio torri’n is na 5cm a pheidio gorbori, fel na chaiff y corun ei niweidio.
Os caiff ei reoli’r briodol, gall meillion coch gynhyrchu rhwng 22 a 25 tunnell o ddeunydd sych fesul hectar bob blwyddyn pan gaiff ei hau gyda glaswellt, a gall y cynnwys meillion gyrraedd hyd at 20 tunnell o ddeunydd sych yn y flwyddyn gyntaf.
“Bydd yn cynhyrchu cyfanswm sylweddol ac yn sicrhau ansawdd uchel o’r flwyddyn gyntaf, a dyna un o’r pethau sy’n wych am y cnwd. Trwy leihau’r problemau, ein gobaith yw y gallwn sicrhau fod gan ffermwyr Cymru ddull o gynhyrchu rhagor o’u protein eu hunain ar y fferm,” meddai.
Mae’r prosiect yn ceisio cyfrannu at amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol LlC, ac un o’r amcanion hynny yw sbarduno twf cynaliadwy. Mae hefyd yn cyfrannu at y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, sy’n annog rhagor o ymchwil a datblygu ac arloesi.