Lansio partneriaeth amaethu manwlgywir newydd

Myfyrwyr a staff Coleg Cambria Llysfasi yn ymweld â chyfleuster CIEL Fferm Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, sy'n ymgymryd ag astudiaethau maeth manwl mewn anifeiliaid cnoi cil, gan arwain at fwy o ddealltwriaeth o'r wyddoniaeth sylfaenol sydd ei hangen ar gyfer systemau ffermio manwlgywir.

Myfyrwyr a staff Coleg Cambria Llysfasi yn ymweld â chyfleuster CIEL Fferm Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, sy'n ymgymryd ag astudiaethau maeth manwl mewn anifeiliaid cnoi cil, gan arwain at fwy o ddealltwriaeth o'r wyddoniaeth sylfaenol sydd ei hangen ar gyfer systemau ffermio manwlgywir.

17 Rhagfyr 2018

Mae ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yn lansio partneriaeth newydd gyda Choleg Cambria Llysfasi, gyda’r nod o annog amaethwyr yng Nghymru a thu hwnt i ymgorffori arloesedd blaengar ar eu ffermydd.

Mae'r prosiect PreciseAg gwerth £370,000 yn canolbwyntio ar ffermio da byw manwlgywir ar gyfer diwydiant amaeth cynaliadwy yng Nghymru, ac wedi’i ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Bydd y bartneriaeth yn ymchwilio i'r defnydd o offer 'amaethyddiaeth da byw manwlgywir' neu 'ffermio deallus' ar ffermydd a reolir gan Brifysgol Aberystwyth ac yn Llysfasi.

Dywedodd Dr Hefin Williams, sy’n arwain y tîm yn IBERS: "Mae amaethyddiaeth da byw glaswelltir yn dominyddu’r diwydiant amaeth yng Nghymru, ac mae yna gysylltiad cryf rhyngddo â lles yr economi wledig, yr iaith Gymraeg a'i chymunedau.

“Mae goblygiadau Brexit i gymorth fferm a pharhad mynediad i’r marchnadoedd allforio cyfredol yn creu ansicrwydd ar hyn o bryd.

“Felly, mae'n bwysicach nag erioed i sicrhau bod y diwydiant amaeth yng Nghymru mor gystadleuol a gwydn â phosibl, ac mae cryn le i gyflawni hyn drwy ymgorffori arloesedd blaengar i'r diwydiant.”

Mae amaethyddiaeth da byw manwlgywir yn defnyddio technegau synhwyro symudiad, tymheredd, pH a sain, ymysg eraill i ddarogan ymddygiad, iechyd, a chyflwr atgenhedlu a ffisiolegol da byw er mwyn adnabod clefydau yn gynnar.

Mae gan yr offer hynny fanteision posibl i’r diwydiant yng Nghymru i wella’r gofal am dda byw, yn ogystal â chynyddu effeithlonrwydd mentrau da byw.

Bydd y prosiect PreciseAg yn cryfhau ymhellach y berthynas waith rhwng Prifysgol Aberystwyth a Choleg Cambria trwy alluogi cydweithwyr yn y sector Addysg Bellach i gael mynediad i arbenigedd ymchwil yn IBERS a gwella'r ddarpariaeth bresennol i fyfyrwyr.

Dywedodd Iain Clarke, Pennaeth Llysfasi: "Mae defnyddio technoleg ffermio ddeallus a manwlgywir yn rhan hanfodol o ffermio’r dyfodol, a bydd yn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'n hadnoddau, gan sicrhau nad yw ein gweithredoedd yn cael effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.

“Mi fydd ein gwaith ar y prosiect PreciseAg gyda Phrifysgol Aberystwyth yn cychwyn partneriaeth hir-dymor a fydd o fudd mawr i amaeth yng Nghymru a'r DU gyfan, trwy gyfnewid gwybodaeth am ymchwil blaenllaw a’i addasu yn atebion uniongyrchol i'r fferm.

“Mi fydd myfyrwyr o'r ddau sefydliad yn cyfrannu’n helaeth at y prosiectau ymchwil gan roi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant amaeth.”

Bydd deunyddiau addysgu yn cael eu datblygu i'w defnyddio yng Ngholeg Cambria a Phrifysgol Aberystwyth yn y lle cyntaf, gyda'r bwriad o gyflwyno'r ddarpariaeth wedyn i ddarparwyr Addysg Bellach eraill yng Nghymru.

Meddai Dewi Jones, Rheolwr Fferm Llysfasi: “Rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar y prosiect hwn gyda'r nod o ddefnyddio technegau amaethyddol manwlgywir i wneud ein ffermydd yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon.

“Mae'n hanfodol bod yr hyn a ddysgwn trwy wneud y gwaith yn cyrraedd y diwydiant yn gyflym, yn enwedig gan y bydd angen i ffermwyr gwrdd â heriau yn y dyfodol. Mae gan fferm Llysfasi ethos masnachol cryf, sy'n helpu sicrhau y gellir cymhwyso'r hyn a ddysgwn yn effeithiol o fewn y diwydiant ehangach.

“Yn yr un modd, os nad yw rhywbeth newydd yn gweithio, o leiaf rydym wedi dysgu hynny yn gynnar cyn ei fabwysiadu'n eang.”

Bydd y bartneriaeth yn gweithio'n agos gyda Cyswllt Ffermio i ddarparu gwybodaeth am ganlyniadau'r prosiect i ffermwyr ledled Cymru trwy ystod o ddigwyddiadau a deunyddiau.