Gweiriau a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn un o ddarganfyddiadau gorau'r DU

Ymchwil gweiriau yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ymchwil gweiriau yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

14 Rhagfyr 2018

Gan gydnabod ei fanteision economaidd a'i effeithiau amgylcheddol trawsnewidiol, ystyrir bod gwaith arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a arweiniodd at gynhyrchu amrywiaethau newydd o weiriau uchel eu siwgr, yn un o'r 100 darganfyddiad gorau yn y DU.

Mae'r gwaith yn cael sylw yn rhestrUK’s Best Breakthroughs: 100+ Ways Universities Have Improved Everyday Life, a baratowyd gan ‘Universities UK’, sef y grŵp ambarél i holl brifysgolion Prydain.

Mae'r rhestr yn rhan o ymgyrch CrëwydYnYBrifysgol sy'n gweithio i newid dirnadaeth gyhoeddus ynglŷn â phrifysgolion a thynnu sylw at y gwahaniaeth a wnânt i bobl, i fywydau a chymunedau ledled Prydain.

Mae'r gwaith o ddatblygu Gweiriau Uchel eu Siwgr (AberHSG) i fwydo da byw yn cael ei wneud yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a fydd yn dathlu 100 mlynedd o fridio planhigion yn 2019, mewn cydweithrediad agos â Germinal, partner diwydiant.

Mae'r gweiriau hyn yn torri i lawr yn sylweddol ar allyriadau nwy o dda byw ac ar yr un pryd yn cynyddu maint y cnwd o gynnyrch da byw, a thrwy hynny'n cynorthwyo i fwydo poblogaeth y byd yn fwy cynaliadwy.

Mae'r gweiriau sy'n cael eu datblygu yn enghraifft o'r ffordd y mae gwyddonwyr y Brifysgol yn cyfuno ymchwil sylfaenol ym maes geneteg planhigion â thechnegau bridio planhigion er mwyn datblygu amrywiadau newydd masnachol o blanhigion wedi'u cynllunio i wynebu heriau byd-eang diogelwch bwyd, dŵr ac ynni.

Heddiw daw bron i draean o'r rhygwellt parhaol a dyfir gan ffermwyr Prydain o hadau a ddatblygwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth, sy'n cynnwys amrywiadau megis AberMagic, AberDart ac AberGreen, a ddefnyddir yn rhyngwladol hefyd.

Paratowyd y rhestr UK’s Best Breakthroughs yn dilyn ymchwil annibynnol a wnaed gan ‘Britain Thinks’, a ganfu nad oedd gan y cyhoedd fawr o ddealltwriaeth ynglŷn â manteision prifysgolion y tu hwnt i addysgu israddedig.

Mae'r rhestr yn dangos fel y mae prifysgolion y DU ar y blaen yn achos rhai o ddarganfyddiadau, dyfeisiau a mentrau cymdeithasol pwysicaf y byd, gan gynnwys darganfod penisilin, mynd i'r afael â gwastraff plastig, sganiau uwchsain i gadw golwg ar iechyd babanod yn y groth, a sefydlu'r Cyflog Byw.

Mae'r rhestr yn rhoi sylw hefyd i rai darganfyddiadau llai enwog ond hanfodol sy'n trawsnewid bywydau, gan gynnwys bra a gynlluniwyd yn arbennig i fenywod sy'n cael triniaeth radiotherapi; toiled sy'n gwaredu gwastraff heb fod angen dŵr; datblygu techneg newydd mewn sgrym i wneud rygbi'n fwy diogel; cynllun chwaraeon sy'n defnyddio pêl droed i ddatrys gwrthdaro mewn cymunedau rhanedig; - a gwaith hyd yn oed i ddiogelu ansawdd y siocled rydyn ni'n ei fwyta.

Meddai'r Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Trosglwyddo Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd bod gwaith arloesol ein gwyddonwyr wedi ei gydnabod wrth ei gynnwys yn rhestr UK’s Best Breakthroughs.  Mae'r ymchwil a wneir gan ein gwyddonwyr yn torri tir newydd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, i fywydau a chymunedau, ac mae'r ymgyrch MadeAtUni yn tynnu sylw myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, y gymuned leol a'r boblogaeth ehangach at y gwaith a wneir yma er mwyn iddynt ddeall yr effaith mae'n ei gael.”

Meddai'r Athro y Fonesig Janet Beer, Llywydd ‘Universities UK’: “Mae prifysgolion yn wir yn trawsnewid bywydau. Y dechnoleg a ddefnyddir bob dydd, y meddyginiaethau sy'n achub bywydau, yr athrawon sy'n ysbrydoli - daw'r cwbl o brifysgolion Prydain a'r gwaith pwysig a gyflawnir gan academyddion.

“Mae'r rhestr UK’s Best Breakthroughs yn tystio i'r gwahaniaeth a wna prifysgolion i fywydau pobl ac fe hoffem i bawb ymuno â ni i ddathlu'r gwaith a wnânt.”

Cewch ragor o wybodaeth am UK’s Best Breakthroughs ac am ymgyrch MadeAtUni yn www.madeatuni.org.uk.