Cyllid UE i roi hwb i sector technolegau creadigol Cymru

Yr Hen Goleg; bydd y prosiect sydd werth £1.4 miliwn yn trawsnewid Adeilad Seddon, nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, yn unedau busnes o’r radd flaenaf ar lan y môr.

Yr Hen Goleg; bydd y prosiect sydd werth £1.4 miliwn yn trawsnewid Adeilad Seddon, nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, yn unedau busnes o’r radd flaenaf ar lan y môr.

07 Rhagfyr 2018

Heddiw [dydd Gwener 7 Rhagfyr], cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford gyllid UE gwerth £0.9miliwn i ailwampio rhan o un o adeiladau eiconig y Brifysgol yn Aberystwyth, sef yr Hen Goleg.

Bydd y prosiect sydd werth £1.4 miliwn yn trawsnewid Adeilad De Seddon, nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, yn unedau busnes o’r radd flaenaf ar lan y môr.

O dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, bydd y cynllun yn creu deuddeg man gwaith newydd a modern ar gyfer y sector technolegau creadigol, a bydd yn annog cynaliadwyedd mewn BBaChau ac yn helpu diwydiannau newydd i ddatblygu a ffynnu.

Byddant hefyd yn helpu graddedigion ac ôl-raddedigion entrepreneuraidd o Brifysgol Aberystwyth i ddod o hyd i safleoedd busnes fforddiadwy yn lleol.

Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: “Dyma enghraifft gadarnhaol arall o sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cronfeydd UE ar gyfer cefnogi diwydiannau newydd ddatblygu a ffynnu, gan arwain at swyddi, cynnyrch a gwasanaethau newydd.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Mae adfywio economaidd yn elfen allweddol o’r cynlluniau i ailddatblygu’r Hen Goleg. Bydd yr unedau busnes newydd yn Adeilad Seddon yn sicrhau bod mwy o swyddi o ansawdd uchel yn cael eu creu a bod rhagor o gynnyrch arloesol yn dod i’r wyneb, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru am eu cefnogaeth gwerthfawr.

“Ar 11 Rhagfyr byddwn yn datgelu’n cynigion uchelgeisiol ar gyfer ailddatblygu’r adeilad unigryw hwn sy’n adeilad rhestredig Gradd I, ac yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus.”

Mae’r cyllid hwn ar gyfer adeilad De Seddon yn rhan o brosiect adfywio mwy o faint a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.