Ymhle mae’r gwrthfater i gyd?

06 Rhagfyr 2018

Darlith Goffa Bill Williams - ‘Antimatter has gone missing!?’
Yr Athro Niels Madsen, Prifysgol Abertawe
1.15yp, Dydd Mercher 12 Rhagfyr 2018

Y Brif Ddarlithfa Ffiseg, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

Y ffisegydd arbrofol, Yr Athro Niels Madsen o Brifysgol Abertawe, fydd yn traddodi Darlith Goffa Bill Williams eleni, wedi ei hanelu at bobl ifanc 16-18 oed.

Cynhelir y ddarlith, ‘Antimatter has gone missing!?’, am 1.15pm ddydd Mercher 12 Rhagfyr yn y Brif Ddarlithfa Ffiseg ar Gampws Penglais.

Eglurodd yr Athro Madsen beth yw sail y ddarlith: “Peth hawdd fyddai colli rhywbeth mewn lle mor fawr â’r Bydysawd, ond mae colli hanner y Bydysawd y tu hwnt i ddychymyg y rhan fwyaf o bobl – ond dyna’n union sydd fel petai wedi digwydd yn achos gwrthfater. Rydym yn argyhoeddedig ei fod yn llenwi hanner y Bydysawd amser maith yn ôl – ond nawr ymddengys ei fod ar goll. Be’ wnawn ni felly? Ai ofer fu Star Trek – fydd ‘na ddim gwrthfater i’n cludo i’r ser? Oes ots gyda ni? I fod o gymorth i ateb y cwestiynau hyn rydym yn gweud ein gwrthfater ein hunain yn labordy ffiseg fwyaf y byd, CERN yn y Swisdir. Byddwn yn trafod pam a sut ac efallai yn dysgu ‘pwy’ a gymrodd yr holl wrthfater yn y Bydysawd.”

Sefydlwyd y Ddarlith Goffa flynyddol yn deyrnged i'r diweddar A.J.S “Bill” Williams MBE (1920-2016) a oedd yn adnabyddus am ei gyfres o ddarlithoedd i ysgolion.

Yn ystod ei yrfa faith ym Mhrifysgol Aberystwyth o 1950-2011, teithiodd hyd a lled y wlad yn siarad â 80,000 o blant.

Yn rhan o gynllun y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i hybu diddordeb ymhlith plant 10-11 oed, dyfeisiodd Bill y ddarlith arddangos 'Science and Energy' ym 1990, a ddangosai fod ynni yn digwydd ar wahanol ffurfiau sy'n gyfnewidiadwy. Yn ei ddarlith, y plant oedd yn gwneud yr holl arbrofion. Traddodwyd y ddarlith ledled Prydain, a gwnaed hynny tua 800 o weithiau.

Oherwydd ei frwdfrydedd a'i ymroddiad enillodd nifer o wobrau yn ystod ei fywyd, gan gynnwys ei MBE am Wasanaeth i Wyddoniaeth ac i Bobl Ifanc, Darlith Gwobr Michael Faraday, Medal Efydd B.D. Shaw, a Medal Arian y Gymdeithas Gemeg Frenhinol am Gyflawniad yn Hyrwyddo Cemeg.  Yn 2014, cafodd ei enwi'n un o'r 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.  Yn 2016, cafodd ei anrhydeddu ar ôl ei farw gan Gymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth.  

Trefnir Darlith Goffa Bill Williams gan Gymdeithas Gwyddonwyr Ifanc Gorllewin Cymru, a sefydlwyd gan Bill Williams a Syr Granville Beynon yn 1977.

I gael rhagor o wybodaeth am y ddarlith cysylltwch â Paula Hughes - pah15@aber.ac.uk