Cymrodoriaeth newydd Marie Sklodowska-Curie

Dr Andrea Warnecke, sy’n Gymrawd Marie Sklodowska-Curie yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth am y ddwy flynedd nesaf.

Dr Andrea Warnecke, sy’n Gymrawd Marie Sklodowska-Curie yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth am y ddwy flynedd nesaf.

27 Tachwedd 2018

Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Cymrodoriaeth Unigol Marie Sklodowska-Curie i astudio annibyniaeth a didueddrwydd cyrff anllywodraethol rhyngwladol mawr (INGOs) mewn perthynas â phleidiau’r  wladwriaeth.

Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth ymchwil fawr ei bri hon, sydd wedi’i hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, i Dr Andrea Warnecke, a gwblhaodd ei Doethuriaeth mewn Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithasol yn Athrofa’r Brifysgol Ewropeaidd (EUI) yn ninas Fflorens.

Cyrhaeddodd Dr Warnecke Aberystwyth yn hydref 2018 a dros y ddwy flynedd nesaf, bydd hi’n gweithio ar y prosiect ‘The Politics of Legitimacy: Non-partisan global governance and networked INGO power in the global governance of post-war states’ (POLINGO).

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Dr Warnecke: “Mae cyrff anllywodraethol rhyngwladol (neu INGOs) sy’n gweithio mewn ardaloedd o argyfwng yn aml yn cyflwyno’u hunain fel rhan o gymdeithas ryngwladol gwir gosmopolitanaidd. Ac eto, mae’u beirniaid yn credu mai cyfrwng ar gyfer hyrwyddo buddiannau economaidd a gwleidyddol eu cyfrannwyr “Gorllewinol” ydynt yn bennaf. Mae’r gwahaniaeth hwn yn codi cwestiwn a yw hi’n bosib canfod i ba raddau mae cyfraniad a gwaith dyngarol yr INGOs mawr megis Human Rights Watch neu CARE wedi eu plethu gyda buddiannau neu agendâu eraill pleidiol, a sut y gallwn wybod hynny.”

Yn ystod ei Chymrodoriaeth ddwy flynedd bydd Dr Warnecke yn gweithio dan arweiniad Dr Berit Bliesemann de Guevara sy’n Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Dr Andrea Warnecke
Mae Dr Andrea Warnecke yn Gymrawd Marie Sklodowska-Curie yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ac yn Gymrawd Cyswllt Canolfan Ymchwil Gymhwysol mewn Partneriaeth â’r Dwyrain (CARPO), Bonn. Cwblhaodd ei Doethuriaeth mewn Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithasol yn Athrofa’r Brifysgol Ewropeaidd (EUI) yn Florence. Mae ei phrosiect newydd, POLINGO yn dadansoddi rhwydweithiau rhyngbersonol anffurfiol rhwng ffurfiau grym gwladwriaethol ac anwladwriaethol a’u goblygiadau i hawlio dilysrwydd mewn llywodraethiant byd-eang.

Bu Andrea’n uwch ymchwilydd yng Nghanolfan Ryngwladol Trawsnewid Bonn (BICC), yng Nghanolfan Astudio Awstria dros Adfer Heddwch a Gwrthdaro (ASPR), ac yn Athrofa Astudiaethau Dwyreiniol ac Asiaidd (IOA) Prifysgol Bonn. Yn 2014, bu’n ymchwilydd ymweld yng Nghanolfan Cyfrifoldeb am Amddiffyn Asia-Pasiffig (Prifysgol Queensland). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar arferion a gwleidyddiaeth cyrff llywodraethol ac anllywodraethol ryngwladol mewn ardaloedd o argyfwng a llywodraethiant byd-eang.