Ymchwil newydd i hyrwyddo heddwch a chymodi yn Colombia
Fe gynhaliodd Berit Bliesemann de Guevara o Brifysgol Aberystwyth (chwith) a Dr Beatriz Arias o Brifysgol Antioquia eu cyfarfod ymchwil cyntaf ar y cyd yn Medellin, Colombia, ym mis Tachwedd 2018.
27 Tachwedd 2018
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn arian ar gyfer prosiect ymchwil unigryw i feithrin heddwch a chymod yn dilyn gwrthdaro yn Colombia.
Bydd Dr Berit Bliesemann De Guevara o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Dr Beatriz Arias o Brifysgol Antioquia yn Colombia.
Mae eu hymchwil ymhlith deg prosiect newydd a gyhoeddwyd gan gorff cyllido ymchwil ac arloesedd y DU (UKRI) ym mis Tachwedd 2018 gyda’r nod o fynd i'r afael â materion sy'n wynebu Colombia wrth i’r wlad symud o gyfnod o wrthdaro i heddwch.
Bydd Dr Bliesemann De Guevara a Dr Arias yn defnyddio technegau adrodd stori, celf a chrefft i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cyn-wrthryfelwyr wrth iddyn nhw geisio addasu i fywyd sifil ac ail-integreiddio i'r gymdeithas.
Wrth siarad o ddinas Medellin yn Colombia, dywedodd Dr Bliesemann De Guevara: “Mae’r prosiect hwn yn cyfuno cyfweliadau bywgraffyddol ar ffurf naratif gyda naratif tecstilau er mwyn dysgu mwy am fywyd y cyn wrthryfelwyr.”
“Mae'r dull arloesol hwn yn cynnwys cynnal gweithdai tecstilau lle mae cyn-wrthryfelwyr yn gyntaf, ac yna cynrychiolwyr o’r gymuned sifil, naill ai’n unigol neu ar y cyd, yn creu lluniau wedi’u gwnïo i fynegi eu hatgofion, eu hunan ddealltwriaethau, a'u gobeithion am y dyfodol. Trwy ddefnyddio’r dull yma, nid data yn unig yw naratifau llafar a thecstilau i lywio'r dadansoddiad o rôl cyn-wrthryfelwyr yn y broses o gymodi ac integreiddio cymdeithasol yn Colombia; yn hytrach, maen nhw’n rhan o strategaeth ymyrraeth fethodolegol sy’n gallu cyfrannu’n weithredol at y broses hon.”
Cafodd y deg prosiect ymchwil eu lansio gan UKRI mewn partneriaeth ag Adran Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd Colombia (Colciencias), ac fe’u hariannwyd gyda £2.8m o Gronfa Newton, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth y DU a gwledydd sy’n bartneriaid.
Dywedodd yr Athro Andrew Thompson, Hyrwyddwr Rhyngwladol UKRI a Chadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC): “Bydd y prosiectau hyn yn cyfrannu at fyd mwy cyfiawn a heddychlon, gan ein galluogi i asesu achosion ac effeithiau gwrthdaro hirdymor a hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy ddechrau deialog sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth a pharch. Mae'n galonogol gweld, yng nghyd-destun Colombia, brosiectau ymchwil sy'n cymryd camau newydd i fynd i'r afael â heriau datblygu. Yn ogystal â chynnig goleuni newydd ar eu meysydd penodol, y gobaith yw y bydd y prosiectau hyn hefyd yn agor sianeli newydd o ymarfer ymchwil o fewn y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau cymdeithasol.”
Dywedodd Dr Eduardo Rojas Pineda, Cyfarwyddwr Datblygu Ymchwil Colciencias: “Mae'r fenter hon yn hyrwyddo'r gwaith o atgyfnerthu cymuned wyddonol ar draws gwahanol feysydd ymchwil a hyrwyddo trosglwyddo gwybodaeth mewn ffyrdd a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd a chymdeithasol Colombia mewn cydweithrediad ag UKRI. Mae'r rhain yn brosiectau cydweithredol rhyngwladol, trawsnewidiol ac o ansawdd uchel sy'n mynd i'r afael ag ystod eang o feysydd sy'n gysylltiedig â throsglwyddiadau heddwch yng Ngholombia.”
Dr Berit Bliesemann de Guevara
Mae Dr Berit Bliesemann De Guevara Dr Berit Bliesemann De Guevara yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol o Ynys Baltig o Fehmarn, astudiodd Dr Bliesemann De Guevara ym Mhrifysgol Hamburg a derbyniodd ei PhD o Brifysgol y Lluoedd Arfog Hamburg. Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn 2012 o Brifysgol Bremen.