Gwella ansawdd bwyta a gwerth Cig Eidion Cymreig PGI

Cig Eidion Cymreig PGI

Cig Eidion Cymreig PGI

23 Tachwedd 2018

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol ar brosiect ymchwil newydd i helpu i gynhyrchu Cig Eidion Cymreig PGI sy’n uwch ei werth, a thrwy hynny hybu hyfywedd ariannol cynhyrchwyr Cig Eidion Cymreig PGI ar ôl Brecsit.

Dyfarnodd y Comisiwn Ewropeaidd statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) i Gig Eidion Cymreig ym mis Tachwedd 2002 ac ystyrir bod statws PGI o bwys economaidd aruthrol i ddiwydiant cig coch Cymru, gan ei fod yn dynodi tarddiad a nodweddion unigryw Cig Eidion Cymreig.

Cefnogir prosiect BeefQ drwy elfen Cymunedau Gwledig Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Bydd BeefQ yn cael ei lansio ym mrecwast blynyddol IBERS yn Hafod a Hendre yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Mawrth 27 Tachwedd am 8.30am.

Prif nod prosiect BeefQ yw meithrin gallu i roi system asesu ansawdd bwyta ar waith yng Nghymru er mwyn gwella ansawdd bwyta a gwerth Cig Eidion Cymreig PGI.

Mae ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn cydlynu BeefQ, gan gydweithio â Phrifysgol Queen’s, Belfast; Hybu Cig Cymru; Menter a Busnes; Celtica Foods Cyf. a Birkenwood International (Awstralia).

Byddant yn cydweithio’n agos â phroseswyr Cig Eidion Cymreig PGI ardystiedig a rhanddeiliaid yn y diwydiant yn ehangach i gynnig atebion sy’n berthnasol i’r diwydiant. 

Dywedodd Dr Pip Nicholas Davies o IBERS: “Bydd BeefQ yn gwneud hyn drwy brofi a dangos system well i raddio ansawdd bwyta carcasau’n seiliedig ar fodel Safonau Cig Awstralia (MSA), a thrwy weithio gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill i nodi’r gofynion o ran rhannu gwybodaeth a chymorth er mwyn rhoi system graddio ansawdd bwyta cig eidion ar waith yng Nghymru.”

Nodwyd yn yr Arolwg o’r Sector Cig Eidion Cymreig (2014) mai ansawdd bwyta yw’r rhwystr mwyaf rhag prynu cig eidion ac mae ymchwil ymhlith defnyddwyr ynghylch parodrwydd i dalu am ansawdd bwyta’n dangos bod defnyddwyr yn fodlon talu mwy am ansawdd bwyta gwell.

Yn Awstralia mae system MSA i raddio ansawdd bwyta wedi creu premiymau sylweddol i gynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a manwerthwyr.

Prif nodau prosiect BeefQ yw:

  • Creu system BeefQ i raddio ansawdd bwyta carcasau’n seiliedig ar fodel MSA yn Awstralia, wedi’i dilysu ar gyfer Cig Eidion Cymreig PGI.
  • Cynnig hyfforddiant i’r rhai sy’n graddio ansawdd bwyta carcasau er mwyn creu cronfa o arbenigedd graddio yng Nghymru.
  • Datblygu system broteip ar y we ar gyfer rhannu a meincnodi data graddio ansawdd bwyta carcasau rhwng proseswyr a chynhyrchwyr.
  • Helpu i ddatblygu strategaeth y cytunwyd arni i’r diwydiant er mwyn bwrw ymlaen â’r system graddio ansawdd bwyta carcasau yng Nghymru ar ôl BeefQ.

Bydd prosiect BeefQ yn cael ei lansio’n swyddogol ym Mrecwast IBERS Prifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 27 Tachwedd am 8.30am yn Hafod a Hendre yn y Ffair Aeaf.

Bydd yr Athro Nigel Scollan o Brifysgol Queen’s, Belfast yn cyflwyno safbwynt byd-eang ar gloriannu ansawdd bwyta cig, a Rob Cumine, Natural Wagyu, Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau yn Awstralia o system ansawdd bwyta cig MSA. 

Bydd Dr Pip Nicholas-Davies ar stondin IBERS yn Da Byw 1 i roi rhagor o wybodaeth am Brosiect BeefQ.