Cicio’r Bar i ddathlu llwyddiant eisteddfodol
Gruffudd Owen, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018
21 Tachwedd 2018
Bydd cyfres newydd o nosweithiau barddoniaeth a cherddoriaeth yn cael ei lansio yn Stiwdio Berfformio Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth nos Iau 22 Tachwedd 2018.
Sefydlwyd Cicio’r Bar gan Eurig Salisbury, Pennaeth Dros Dro Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol, a’r Dr Hywel Griffiths, prifardd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015 a darlithydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Bydd y gyntaf yn y gyfres yn ddathliad o lwyddiant dau o brif lenorion Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 - Gruffudd Owen, enillydd y Gadair, a Manon Steffan Ros, a gipiodd y Fedal Ryddiaith.
Yn ogystal â chyfarchiadau barddol traddodiadol gan Eurig a Hywel, bydd Gruffudd yn darllen detholiad o’i waith, gan gynnwys ei awdl fuddugol, a Manon yn canu fel rhan o’r ddeuawd Blodau Gwylltion, gyda’r gitarydd Elwyn Williams.
Dywedodd Eurig Salisbury: “Ar hyd a lled y wlad, mae nosweithiau gwych yn cael eu cynnal ar hyn o bryd sy'n rhoi llwyfan i farddoniaeth ac i gerddoriaeth Gymraeg. A dyna'r syniad y tu ôl i Cicio'r Bar – dod â holl gyffro'r sin farddol i'r dre mewn cyfres o nosweithiau rheolaidd ar hyd y flwyddyn. Pa ffordd well o roi hynny i gyd ar waith na thrwy longyfarch a dathlu camp dau o brif enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol eleni?”
Yn wreiddiol o Bwllheli, graddiodd Gruffudd yn y Gymraeg o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yn 2007 cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd MPhil yn Aber yn 2011.
Ac yntau bellach yn un o olygyddion opera sebon boblogaidd a hirhoedlog BBC Cymru, Pobl y Cwm, cafodd Eisteddfod lwyddiannus ym Mae Caerdydd, gan iddo hefyd ennill stôl y Siwper Stomp a phrif wobr y Stomp Werin.
Disgrifiwyd ei awdl fuddugol ar y testun ‘Porth’ gan y beirniaid fel un aeth “â gwynt y tri ohono’ ni – nid am ei bod hi’n goeth a chyfoethog, nid am ei bod hi’n eithriadol o gywrain ac amlhaenog – ond am ei bod hi mor syml o dreiddgar yn y ffordd mae’n ymdrin â phrofiade sydd yn ffordd o fyw i’r genhedleth ddigidol.”
Daw Manon Steffan Ros yn wreiddiol o Ddyffryn Ogwen. Derbyniodd ei nofel Llyfr Glas Nebo ganmoliaeth uchel gan feirniaid y Fedal Ryddiaith. Dywedodd y beirniad Sonia Edwards: “Weithiau, mewn ras fawr nodedig, mae yna geffyl diarth yn ymddangos o nunlle ac yn pasio pawb o'r ochr allan. Mae o'n ei osod ei hun ar y blaen ac yn aros yno hyd y diwedd, tra bod y gweddill yn mesur eu camau tu ôl iddo. Mae profi cyffro fel hyn yn peri i ias eich cerdded.”
Gellir archebu tocynnau ar gyfer Cicio’r Bar am £7 drwy swyddfa docynnau neu drwy wefan Canolfan y Celfyddydau. Cynhelir y noson yn Stiwdio Gron Canolfan y Celfyddydau a bydd yn dechrau am 7:45 yr hwyr nos Iau 22 Tachwedd 2018.
Bydd yr ail noson yn y gyfres yn cael ei chynnal nos Wener 8 Chwefror 2019.