Dinasyddiaeth yng nghysgod Brexit

19 Tachwedd 2018

Wrth i'r dadlau gwleidyddol o amgylch ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd barhau, mi fydd Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn trafod dinasyddiaeth yng nghyfnod Brexit.

Citizenship, 'Race' and Class: Hannah Arendt and Raymond Williams in the age of Brexit’ fydd pwnc yr Athro Daniel G Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.

Cynhelir y ddarlith, sydd yn agored i’r cyhoedd, ar nos Wener 23 Tachwedd ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth am 7 yr hwyr, gyda derbyniad o 6:30 yr hwyr.

Bydd Yr Athro Williams, sy’n hanu o Aberystwyth, yn ceisio deall Brexit drwy ystyried gwaith y ddeuawd annisgwyl, Raymond Williams a Hannah Arendt.

Roedd Williams yn adnabyddus fel meddyliwr diwylliannol Cymreig, ac Arendt, a ddihangodd o’r Almaen Natsïaidd, yn ddadansoddydd dylanwadol o dotalitirariaeth a thynged ffoaduriaid.

Mi fydd yr Athro Williams yn trafod y cysylltiadau rhyngddynt ac yn ystyried arwyddocad eu syniadau am ddinasyddiaeth, ‘hil’ a chenedligrwydd wrth i ninnau wynebu canlyniadau tebygol Brexit.

Dywedodd yr Athro Michael Woods, Cyd Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru: "Gyda’r ansicrwydd sydd yn parhau o amgylch Brexit a’r hyn mae’n ei olygu i Gymru, mi fydd darlith yr Athro Williams yn amserol ac yn herio ein canfyddiad o ddinasyddiaeth.”

Gellir cadw tocyn i’r ddarlith ‘Citizenship, 'Race' and Class: Hannah Arendt and Raymond Williams in the age of Brexit’ arlein yma.

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.

Y Ganolfan hefyd yw cangen Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), sy’n darparu cysylltiadau â gwyddonwyr cymdeithasol ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe.

Mae’r Ganolfan yn cynnal nifer o ddigwyddiadau, llawer ohonynt yn agored i’r cyhoedd. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan.

Bydd Yr Athro Williams hefyd yn annerch cynhadledd 'Ysgrifennu Hunaniaethau Cymreig' Ddydd Sadwrn 24 Tachwedd rhwng 1:30 a 5:00yp yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth.

 

Cadw tocyn ar gyfer Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru https://www.eventbrite.co.uk/e/annual-lecture-prof-daniel-williams-citizenship-race-and-class-hannah-arendt-and-raymond-williams-tickets-51398549445