Lansio cyfres o straeon i blant
(chwith i’r dde): Fflur Aneira Davies, CAA Cymru; a’r awduron, Mari Lovgreen; Gwenno Mair Davies ac Eurig Salisbury, Pennaeth dros dro Adran Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
16 Tachwedd 2018
Mae tri awdur adnabyddus, sy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth, wedi cyfrannu at greu cyfres o straeon newydd i blant.
Lansiwyd Cyfres Halibalŵ, sef cyfres o nofelau gwreiddiol llawn hiwmor i blant, yn Ysgol Gynradd Llanbrynmair ddydd Mercher 7 Tachwedd 2018.
Mae awduron y gyfres yn cynnwys Gwenno Mair Davies, Mari Lovgreen ac Eurig Salisbury, y tri yn gyn-fyfyrwyr o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Fe raddiodd y tri, a golygydd y gyfres, Fflur Aneira Davies o Brifysgol Aberystwyth yn yr un flwyddyn, 2004.
Chwe nofel wreiddiol, llawn hiwmor ar gyfer plant 7-11 oed yw’r gyfres, wedi’u hysgrifennu gan rai o awduron plant mwyaf poblogaidd Cymru.
Wrth lansio Cyfres Halibalŵ, meddai Fflur Aneira Davies o CAA Cymru: “Rydym wrth ein boddau yn cael cyhoeddi’r llyfrau gwreiddiol hyn i blant Cymru. Maen nhw wedi’u hysgrifennu gan awduron ifanc a phoblogaidd sy’n gweithio’n gyson gyda phlant yr oedran hwn, ac felly maen nhw’n adnabod eu cynulleidfa yn dda. Bydd y nofelau bywiog, yr hiwmor, a’r lluniau lliw gan arlunwyr talentog, yn apelio at ferched a bechgyn ledled Cymru, ac mae gwerthiant wedi bod yn wych yn y pythefnos cyntaf ers eu cyhoeddi.”
Cyhoeddir Cyfres Halibalŵ gan CAA Cymru, cyhoeddwyr Prifysgol Aberystwyth, ac fe’u hariennir gan Lywodraeth Cymru.