Dathlu cynnydd gwaith adeiladu gyda seremoni llofnodi’r dur
(chwith i'r dde): Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Peter Ryland, Prif Swyddog Gweithredu, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Paul Gemmill, Prif Swyddog Gweithredu, UKRI BBSRC; Neal Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr, Willmott Dixon Construction, Cymru a'r Gorllewin a Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol, Campws Arloesi a Menter Aberystwyth.
16 Tachwedd 2018
Mae’r cam diweddaraf yn y gwaith adeiladu ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth wedi’i nodi mewn seremoni arbennig.
Ymgasglodd cyllidwyr, staff y brifysgol, rhanddeiliaid cymunedol a chynrychiolwyr diwydiant ar gyfer seremoni llofnodi’r dur ddydd Llun 12 Tachwedd 2018 ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.
Roedd y digwyddiad yn nodi cwblhau ffrâm ddur Bio-fanc Hadau’r Campws newydd.
Gwahoddwyd gwesteion i lofnodi trawst dur, ac yna fe’i codwyd gyda chraen a’i osod yn ei le gan ddod yn rhan barhaol o strwythur yr adeilad.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Hyd yn oed cyn cwblhau’r gwaith, mae’r Campws yn bendant ar agor ac ar waith, yn gweithredu fel magnet ar gyfer cydweithio a chydleoli rhwng busnes a’r brifysgol. Mae seremoni llofnodi’r dur yn garreg filltir gyffrous yn llinell amser y gwaith ar adeiladu’r Campws, ac yn gyfle i bawb weld y cynnydd gwych sydd eisoes wedi’i wneud ar y safle. Bydd y datblygiad yn gartref ardderchog i fusnesau a phartneriaethau newydd, gan adeiladu ar sawl prosiect diwydiannol cydweithredol sydd wedi’u hen sefydlu a denu rhai newydd i Gymru.”
Cafwyd cynnydd sylweddol dros y misoedd diwethaf, gyda’r gwaith ar baratoi sylfaeni’r safle ar gyfer y Ganolfan Bio-fanc Hadau a Bioburo bellach wedi’i gwblhau.
Mae’r prif gontractwr, Willmott Dixon, hefyd wedi bod yn brysur yn dargyfeirio gwasanaethau a chodi strwythur dur yr adeiladau cyntaf ar y Campws.
Bydd y datblygiad £40.5m yn meithrin cydweithio rhwng busnes a’r byd academaidd, gan gynnig cyfleusterau ac arbenigedd fydd yn arwain y byd yn y sectorau bwyd a diod, biotechnoleg a thechnoleg amaeth, gyda chyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y BBSRC – rhan o UK Research and Innovation – a Phrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Wrth i ni ddathlu cynnydd, rydym ni nawr yn canolbwyntio ar sut y bydd cyfleusterau’r Campws newydd yn cefnogi’r gymuned fusnes a’r brifysgol mewn prosiectau cydweithredol fydd yn gweld cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn cael eu dwyn i’r farchnad. Mae ein drws bellach wirioneddol ar agor ar gyfer y trafodaethau cyffrous hyn.”
Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth hefyd yn gartref i Ganolfan Gwyddor Ddadansoddol a Chanolfan Bwyd y Dyfodol, a bydd yn gwbl weithredol erbyn haf 2020.
Unwaith iddo agor, bydd y Campws yn adeiladu ar alluoedd sydd eisoes yn bodoli yn sefydliadau Prifysgol Aberystwyth, gan weithio’n arbennig o agos gyda Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i hwyluso gwell mynediad at y galluoedd ymchwil rhagorol sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd yn ogystal â siapio blaenoriaethau ymchwil trosiadol yn y dyfodol.
Mae Willmott Dixon wedi cydweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion i gynnig cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith a phrentisiaethau i bobl ifanc yn yr ardal.
Dywedodd Neal Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Willmott Dixon: “Roedd heddiw’n achlysur gwych i ddathlu’r cynnydd rhagorol sydd wedi’i wneud hyd yma, ond mae ein gwaith yn estyn y tu hwnt i’r adeiladau rydym ni’n eu hadeiladu. Rydym ni am adael effaith gadarnhaol a pharhaus yn y gymuned. Dyna pam ein bod ni’n gweithio gyda’r Cyngor a darparwyr eraill i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc a phobl ddi-waith tymor hir. Tra’n bod ni yma, rydym ni am sicrhau bod y prosiect yn dod â budd i gynifer o bobl â phosibl.”
Mae un o’r adeiladau presennol, fydd yn rhan o Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth ar safle Gogerddan, eisoes wedi’i adnewyddu i safon uchel gan gynnig dros 300m2 o ofod swyddfa y gellir ei rentu i’r gymuned fusnes.
Mae’r cyfleuster wedi’i foderneiddio i ddarparu’n benodol ar gyfer cwmnïau sy’n dymuno cyd-leoli gydag ymchwilwyr blaenllaw yn y sectorau biowyddorau a thechnoleg amaeth.