Ysgrifennu Hunaniaethau Cymreig

06 Tachwedd 2018

Llenyddiaeth gyfoes am fywyd Cymreig yng Nghymru fydd testun cynhadledd hanner diwrnod a gynhelir yn adeilad Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth ddydd Sadwrn 24 Tachwedd 2018 o 1.30pm-5pm.

Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth sy’n trefnu’r gynhadledd, Writing Welsh Identities, a fydd yn archwilio llenyddiaeth fodern Saesneg o Gymru.

Y siaradwr cyweirnod fydd yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, Prifysgol Abertawe.

Hefyd yn annerch fydd Anna Beyer, Morgan Davies, Dan Jones, a Sarah Reynolds o Brifysgol Aberystwyth. 

Bydd yr anerchiadau’n cynnwys materion megis iaith a hunaniaeth; grym y tirwedd; cyrraedd gwlad ddieithr; dulliau o ysgrifennu Cymru yn y nofel gyfoes.

Meddai Dr Jacqueline Yallop, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol sy’n trefnu’r gynhadledd: “Bydd y gynhadledd hwn o ddiddordeb arbennig i unrhyw un sydd â diddordeb mewn straeon am fywyd ac iaith Cymru.  Mae’r achlysur yn agored i’r cyhoedd ac mae’r mynediad am ddim.  Oes oes gennych ddiddordeb yn y maes, edrychwn ymlaen i’ch croesawu i fwynhau’r hyn a fydd yn archwiliadau hynod ddiddorol o ddirnadaethau o ‘Gymreictod’ a’r modd y mae hunaniaeth Gymreig yn cael ei diffinio mewn llenyddiaeth gyfoes, a bydd digon o amser i drafod.”