Y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn sbarduno cynllun am ganolfan sbectrwm genedlaethol newydd
Chwith i’r Dde: Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth; Gweinidog Gwladol Cymru Alun Cairns AS: James Willis, Rheolwr Gyfarwyddwr Seibr, Gwybodaeth a Hyfforddiant Qinetiq; a Dr Giles Bond, Ymchwil ac Arloesedd Qinetiq, yn nigwyddiad ffocws y Ganolfan Sbectrwm Radio Genedlaethol gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 18 Medi 2018.
18 Medi 2018
Bu Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, yn traddodi araith gyweirnod mewn digwyddiad ffocws arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Mawrth 18 Medi 2018, digwyddiad gafodd ei gynnull i ystyried sefydlu canolfan ymchwil arloesol ar gyfer y DU yng nghanolbarth Cymru.
Bydd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol yn ymchwilio, datblygu a phrofi'r genhedlaeth nesaf o systemau a chymwysiadau sbectrwm-ddibynnol sydd eu hangen ym Mhrydain, ac ar yr un pryd yn creu swyddi newydd uchel eu gwerth yng Nghymru.
Nod y ganolfan genedlaethol hon yw creu ecosystem sy'n cwmpasu'r llywodraeth, diwydiant, a'r byd academaidd i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
Bydd yn canfod, yn datblygu ac yn arddangos y technolegau a'r cymwysiadau sydd eu hangen i ddiogelu, ehangu a hybu i’r eithaf y gwerth a ddaw yn sgil hynny i’r Brydain Ddigidol trwy'r systemau sy'n ddibynnol ar ddefnyddio'r sbectrwm radio, megis ffermio deallus, cerbydau awtonomaidd, gofal iechyd digidol, 5G a’r rhyngrwyd pethau.
Bydd y Ganolfan yn cefnogi nod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyflawni ei gweledigaeth am sbectrwm a dyblu ei chyfraniad economaidd blynyddol i dros £100biliwn erbyn 2025, trwy gefnogi cynlluniau strategol tebyg i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan ganolog yn yr economi leol, ac yn gwneud cyfraniad hanfodol yn ehangach yng Nghymru a gwledydd Prydain. Ni cheir arwydd gwell o lwyddiant y brifysgol na gweld un o arweinwyr diwydiant yn buddsoddi mewn prosiect am ei fod yn credu y bydd yn llwyddiant masnachol.
"Bydd y prosiect yn cynorthwyo'r brifysgol i adeiladu ymhellach ar seiliau ei rhagoriaeth dysgu, trwy hyfforddi'r genhedlaeth newydd o beirianwyr systemau radio. Bydd hefyd yn rhoi cartref i ymchwil arloesol, at ddibenion y brifysgol, ond hefyd i sicrhau bod Prydain yn gallu wynebu heriau diwydiannol ehangach neu heriau llywodraeth."
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rydyn ni'n gweld chwyldro diwydiannol newydd, sydd â'r potensial i ddod â manteision economaidd mawr yn ei sgil, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae gennym y sgiliau, yr adnoddau a'r cyfleusterau yng nghanolbarth Cymru i ddatblygu i fod yn arweinwyr byd wrth yrru'r technolegau digidol diweddaraf yn eu blaen. Trwy gydweithio â chwmni QinetiQ a phartneriaid lleol eraill, rydym mewn man delfrydol i greu Canolfan Sbectrwm Genedlaethol ar gyfer dyfeisgarwch, peirianneg ac arbrofi. Yr hyn sydd ei angen nawr yw cefnogaeth y llywodraeth i'r cynnig arloesol hwn ar gyfer Cymru a Phrydain."
Dywedodd James Willis, Rheolwr Gyfarwyddwr Busnes Seiber, Gwybodaeth a Hyfforddiant cwmni QinetiQ: "Mae QinetiQ yn falch o fod yn rhan o'r cyfle cyffrous hwn i ddefnyddio'n gwybodaeth a'n profiad helaeth o sbectrwm radio i gynorthwyo i feithrin safle i arwain y byd ar gyfer profi a sicrhau technolegau sy'n ddibynnol ar y sbectrwm, i Gymru a Phrydain yn ehangach."
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, "Rydyn ni'n falch iawn i gefnogi'r archwilio i weld a ellir sefydlu Canolfan Ymchwil Sbectrwm Genedlaethol yng Nghanolbarth Cymru. Fel Cyngor, rydyn ni'n gweithio gyda rhai o fusnesau mwyaf y sir i ddechrau paratoadau am Fargen Twf i'r rhanbarth. Mae datblygu busnesau a thechnolegau yn allweddol ar gyfer twf a datblygiad. Bydd hyn yn sicrhau cyfle a dyfodol i'n hieuenctid, ac yn creu swyddi newydd uchel eu gwerth yn yr ardal."
Daeth y digwyddiad ffocws ar 18 Medi 2018 â dros 200 o gynrychiolwyr ynghyd, o bob rhan o'r gymuned amrywiol o randdeiliaid y sbectrwm, er mwyn dangos yr angen am ganolfan genedlaethol ac i gynorthwyo i ddiffinio'i hanghenion.