Cwrs ar-lein am ddim i fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru
Mae Prifysgolion Aberystwyth a Chaerfaddon wedi lansio Cwrs Ar-lein Enfawr Agored – MOOC – ar gyfer myfyrwyr dros 16 sydd yn astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
07 Medi 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerfaddon wedi gweithio ar y cyd i gynhyrchu cwrs ar-lein am ddim i helpu myfyrwyr sy’n astudio Bagloriaeth Cymru.
Lansiwyd y Cwrs Ar-lein Enfawr Agored, ne MOOC fel y maent yn cael eu hadnabod, ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 7 Medi 2018, ac mae ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae Sut i Lwyddo yn dy Fagloriaeth: Hanfodion y Prosiect Unigol / How to Succeed in Your Welsh Bacc: The Individual Project Essentials wedi’i gynllunio i gefnogi myfyrwyr dros 16 yng Nghymru sy’n gweithio tuag at y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch.
Bydd y MOOC yn darparu cymorth ymarferol i’r disgyblion ac yn cymryd pythefnos i’w gwblhau o’r adeg cofrestru (tua thair awr o astudio’r wythnos).
Bagloriaeth Cymru fydd y MOOC cyfrwng Cymraeg cyntaf i gael ei chynnig ar FutureLearn, rhwydwaith dysgu cymdeithasol blaenllaw’r Brifysgol Agored, ac mae’r ar gael i bawb yn rhad ac am ddim.
Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru: “Mae Bagloriaeth Cymru yn paratoi unigolion ar gyfer addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol, ac rwy’n annog pawb i weithio tuag at gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch er mwyn manteisio’n llawn ar y platfform hygyrch hwn sy’n rhad ac am ddim. Mae sicrhau fod gan fyfyrwyr y gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu llawn botensial yn hanfodol. Mae’n bleser gweld sefydliadau’n cydweithio, ar draws y ffin, i helpu unigolion i lwyddo yn y cymhwyster hwn.”
Mae’r cwrs ar-lein newydd yn adeiladu ar seiliau cynllun arall sydd eisoes ar waith gan Brifysgol Aberystwyth i gefnogi ysgolion sy’n cynnig Bagloriaeth Cymru.
Ers 2012, mae’r Brifysgol wedi bod yn croesawu disgyblion i Aberystwyth o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn y Profiad Bacc Aber undydd – menter ar y cyd rhwng y Brifysgol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Hyd yma mae dros 2,700 o ddisgyblion chweched dosbarth wedi cwblhau Profiad Bacc Aber, ac Aberystwyth wedi croesawu ymweliadau gan 73 o ysgolion a cholegau.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Un o amcanion Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru yw arfogi myfyrwyr dros 16 gyda sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eu cam nesaf – boed hynny’n mynd i’r brifysgol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth. Fel Prifysgol, rydym wedi gweithio gydag ysgolion yng Nghymru ar ddatblygu rhai o’r sgiliau trosglwyddadwy allweddol hynny, gan gynnig arweiniad arbenigol ar sut i ymchwilio, ysgrifennu a chyfeirnodi elfen Prosiect Unigol y cymhwyster. Ein bwriad drwy lansio’r Cwrs Agored Enfawr Ar-lein yw rhoi pecyn cymorth ychwanegol i ysgolion a cholegau i’w defnyddio fel rhan o’r broses ddysgu werthfawr hon.”
Dywedodd Mike Nicholson, Cyfarwyddwr Derbyn Israddedigion ac Allgymorth Prifysgol Caerfaddon: “Mae Prifysgol Caerfaddon yn falch o fod wedi cael cyd-weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth yn natblygiad MOOC Bagloriaeth Cymru dwyieithog. Rydym yn cydnabod y gwerth y mae ehangder ychwanegol y maes astudio yn ei roi i fyfyrwyr, yn enwedig wrth ddatblygu eu sgiliau prosiect. Caiff myfyrwyr sydd wedi derbyn gradd B yn y Dystysgrif Her Sgiliau ac sy’n ymgeisio am le ym Mhrifysgol Caerfaddon gydnabyddiaeth ychwanegol, ac mae nifer o’n myfyrwyr yn medru defnyddio’r profiad i sicrhau cyfleoedd lleoliad gwaith neu internïaeth, sy’n cael eu cynnig ym mhob un o’n cyrsiau gradd.”
Dywedodd Caroline Morgan, Rheolwr Fframwaith Bagloriaeth Cymru ar gyfer Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru: “Rwy'n werthfawrogol iawn o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerfaddon am eu harbenigedd a'u profiad wrth ddarparu cwrs ymchwil ar-lein i fyfyrwyr yng Nghymru. Mae'r ddwy brifysgol wedi datblygu'r cwrs dwyieithog ar-lein hwn a fydd ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru Safon Uwch i'w cefnogi wrth gwblhau eu Prosiect Unigol. Yn ogystal darparwyd arweiniad gan dîm Bagloriaeth Cymru CBAC wrth ddatblygu'r prosiect, ac yr wyf yn siŵr y bydd y myfyrwyr a'u hathrawon yn hynod ddiolchgar.”
Dywedodd Emma Davies, Pennaeth Bagloriaeth Cymru yn Ysgol St John’s the Baptist School, Aberdâr: “Mae’r Prosiect Unigol yn rhan gynyddol bwysig o’r broses o wneud cais i brifysgol ac mae llawer o fyfyrwyr yn eu cynnwys yn eu datganiadau personol, felly fydd cael adnodd ar-lein sy’n medru eu cefnogi yn y rhan hon o’r broses nid yn unig yn gwella eu hyder a’u cyrhaeddiad ond hefyd yn paratoi myfyrwyr at Addysg Uwch.”
Bydd Sut i Lwyddo yn dy Fagloriaeth: Hanfodion y Prosiect Unigol / How to Succeed in Your Welsh Bacc: The Individual Project Essentials ar gael ar lwyfan dysgu cymdeithasol FutureLearn o ddydd Llun 10 Medi 2018.
Gall ysgolion a cholegau sydd â diddordeb yn y Profiad Bacc Aber yn Aberystwyth gysylltu â Thîm Cyswllt Ysgolion y Brifysgol ar 01970 621735.