Gwyddonwyr Aberystwyth yn taclo un o afiechydon mwyaf marwol y byd
Mae sgistosomiasis yn effeithio ar fwy 200 miliwn o bobl ar draws y byd. Mae wyau (oval) sy’n cael eu cynhyrchu gan y parasit sgistosom yn casglu yn afu’r dioddefwr (celloedd pinc) ac yn achosi ymateb llidus (celloedd porffor). Mae hyn yn arwain at gymlethdodau sydd wedi eu cysylltu gyda sgitsosomiasis a marwolaeth.
29 Mehefin 2018
Gallai datblygiadau gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth o safbwynt deall un o afiechydon mwyaf marwol y byd y potensial i gynnig rhyddhad i filoedd o ddioddefwyr ledled y byd.
Mae sgistosomiasis, neu bilharzia fel y mae hefyd yn cael ei adnabod, yn effeithio ar fwy na 200 miliwn o bobl ar draws y byd, â channoedd o filoedd yn marw cyn eu hamser o’i herwydd.
Llyngyren barasitig sydd yn byw mewn malwod dŵr croyw sydd yn ei achosi ac mae 85% o’r achosion i’w gweld yn ardaloedd is-Sahara Affrica.
Caiff pobl eu heintio tra eu bod yn amaethu, gwneud gwaith tŷ, neu drwy weithgareddau galwedigaeth neu hamddena yn agos at ddŵr wedi ei heintio.
Yn ail i Malaria ar y raddfa difrifoldeb afiechydon parasitig, mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu fod y clefyd yn symud i rannau o Ewrop, gydag achosion wedi eu cofnodi ar ynys Corsica ym Môr y Canoldir.
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio bioleg y sgistosom, y llyngyren barasitig sy’n achosi’r afiechyd.
Dan arweiniad Yr Athro Karl Hoffmann yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol, mae’r tîm yn edrych am dargedau a all arwain at ddatblygu triniaethau newydd.
Mewn erthygl yn y cyfnodolyn gwyddonol PLoS Pathogens, mae’r Athro Hoffmann a’i gyd-weithwyr yn adrodd ar gyfres o arbrofion sy’n canolbwyntio ar broteinau sy’n ddylanwadu ar allu’r parasitiaid i genhedlu, unwaith y byddant wedi heintio person.
Dywedodd yr Athro Hoffmann: “Tan yn gymharol ddiweddar, credwyd bod clefydau dynol a achoswyd gan lyngyr parasitig wedi eu cyfyngu i gymunedau tlawd ledled Affrica, Asia a De America. Fodd bynnag, yn yr oes hon o deithio byd-eang a hinsawdd sydd yn newid, mae mwydod parasitig yn araf, ond yn sicr, yn symud i rannau o Ewrop a Gogledd America. Mae'n anodd rhagweld canlyniadau hirdymor y cynnydd o ddosbarthiad y llyngyr parasitig, ond mae'r niwed y mae'r haint yn ei achosi yn tynnu sylw at yr angen i ddatblygu strategaethau rheoli a all liniaru'r bygythiad hwn i iechyd byd-eang yn yr 21ain ganrif.
“Rydym wedi treulio'r ddau ddegawd diwethaf yn astudio bioleg y sgistosom er mwyn adnabod prosesau a thargedau parasit a allai arwain at ddatblygu cyffuriau newydd neu driniaethau eraill.
“Mae Sgistosomiasis yn cael ei drin ar hyn o bryd gyda Praziquantel, cyffur hynod effeithiol a ddatblygwyd yn y 1970au, ond nid oes brechlyn. Mae effeithiolrwydd Praziquantel wedi golygu na chafwyd datblygiadau mewn cyffuriau ar gyfer y cyflwr yn ystod yr 20 i 30 mlynedd diwethaf ac mae angen triniaethau newydd rhag ofn bod y parasit yn datblygu ymwrthedd i driniaethau cyfredol.”
Mae tîm yr Athro Hoffmann wedi bod yn canolbwyntio ar methylation DNA lle mae proteinau yn ychwanegu cydrannau moleciwlaidd o'r enw grwpiau methyl i foleciwlau DNA, gan ddylanwadu ar weithgaredd genetig heb effeithio ar y dilyniant DNA sylfaenol (epigeneteg).
Mae eu canfyddiadau diweddaraf yn datgelu dull posibl o leihau nifer yr wyau sy’n cael eu dodwy gan y llyngyr mewn pobl, a thrwy hynny yn cynnig potensial i leihau trosglwyddo'r afiechyd.
Cafodd y papur Methyl-CpG-binding (SmMBD2/3) and chromobox (SmCBX) proteins are required for neoblast proliferation and oviposition in the parasitic blood fluke Schistosoma mansoni ei gyhoeddi ddydd Iau 28 Mehefin 2018 yn y cyfnodolyn PloS Pathogens.
Mae’r Athro Hoffmann hefyd wedi ysgrifennu am yr heriau o daclo sgistosomiasis yn The Conversation Parasitic flatworms affect millions in developing countries, but new research offers hope.