Gwobrwyo rhagoriaeth gwasanaeth i gwsmeriaid
Chwith i’r Dde: Aelodau o staff Gwasanaethau Gwybodaeth, Faye Ap Geraint, Joy Cadwallader, Julie Hart, Jamie Harris, Elizabeth Kensler, Sarah Gwenlan a Jan Litton yn dathlu adnewyddu achrediad Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid am dair blynedd arall.
26 Mehefin 2018
Mae ansawdd gwasanaeth cwsmeriaid adran Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) Prifysgol wedi ei gydnabod gan arolwg annibynnol.
Dyfarnwyd achrediad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid am dair blynedd i’r Adran, sy'n darparu ystod eang o wasanaethau llyfrgell a thechnoleg gwybodaeth ar draws pob rhan o'r Brifysgol..
Nododd yr arolygydd Anthony Lishman bod Gwasanaethau Gwybodaeth wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y byddai disgwyl iddynt ei wneud yn arferol mewn wyth maes.
Canlyniad hyn yw bod y tîm wedi derbyn cydnabyddiaeth ychwanegol ‘Compliance Plus’ am y modd maent yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â chwsmeriaid; arweinyddiaeth, polisi a diwylliant; ansawdd y wybodaeth a ddarperir; cydweithio â darparwyr, partneriaid a chymunedau; a phroffesiynoldeb ac agwedd y staff.
Dyfarnwyd achrediad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid i Gwasanaethau Gwybodaeth am y tro cyntaf yn 2015.
Mae’r cynllun, sy’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth, yn asesu sefydliadau ar sail y modd mae gwasanaethau yn cael eu darparu, prydlondeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd staff.
Caiff y safon ei ystyried yn dystiolaeth o ansawdd a rhagoriaeth mewn gwasanaeth i gwsmeriaid ac mae'n ofynnol i sefydliadau sy'n cymryd rhan gael adolygiad llawn bob tair blynedd.
Yn sgil yr adolygiad, rhoddwyd canmoliaeth i 'sianelau cyfathrebu soffistigedig y mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn eu defnyddio i gysylltu â'i gwsmeriaid', yn cynnwys ApAber a lansiwyd yn ddiweddar.
Fel rhan o'r adolygiad a barodd ddau ddiwrnod, ymgynghorwyd â myfyrwyr a staff ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan Gwasanaethau Gwybodaeth.
Cafwyd adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr a oedd yn cynnwys gwerthfawrogiad o barodrwydd staff i gynorthwyo, gydag un myfyriwr yn dweud nad oedd 'dim yn ormod o drafferth' i staff, a’u bod ar bob achlysur yn 'barod i chwilio am ateb’.
Dywedodd Nia Ellis ac Elizabeth Kensler, Rheolwyr Gwasanaethau Cwsmer yn GG: “Rydym yn falch iawn o'r holl ymdrechion gan ein staff a'n partneriaid yn y brifysgol i sicrhau'r achrediad yma. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad Gwasanaethau Gwybodaeth i sicrhau bod y cwsmer wrth galon popeth a wnawn.”
Ym mis Ionawr 2018 cwblhaodd Gwasanaethau Gwybodaeth brosiect £1m i adnewyddu llyfrgell eiconig Hugh Owen a’i golygfeydd panoramig dros Aberystwyth a Bae Ceredigion.
Yn ogystal ag ardal groeso newydd, mae'r datblygiad wedi darparu llawer mwy o leoedd astudio i fyfyrwyr ynghyd â systemau goleuo ac awyru mwy effeithlon.
Ceir rhagor o wybodaeth am y wobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yma.