CAA Cymru yn cyhoeddi llyfrau newydd i oedolion sy’n dysgu Cymraeg
Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure (dde) yn derbyn copi o Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare oddi Delyth Ifan, Cyfarwyddwr CAA (canol). Hefyd yn y llun (chwith i’r dde) mae Stephen Forster, Cyfarwyddwr Cyllid, Susan Chambers, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Brifysgol, a Rob Dery, Tiwtor Dysgu Cymraeg.
05 Mehefin 2018
Mae copi cyntaf o gyfrol newydd i oedolion sydd yn dysgu Cymraeg wedi ei chyflywno i Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Cyflwynwyd Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare i’r Athro Elizabeth Treasure yn ystod ei gwers Gymraeg wythnosol gan CAA Cymru, cyhoeddwr deunydd addysgiadol Prifysgol Aberystwyth.
Cyflwynwyd copïau hefyd i Stephen Forster, Cyfarwyddwr Cyllid, a Susan Chambers, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Brifysgol, sydd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith.
Mae’r gyfrol, gan yr awdur Elin Meek, wedi ei hanelu at oedolion sy’n dysgu Cymraeg ar y cwrs lefel Mynediad ac mae’n adrodd hanes y tenor a ddaeth yn adnabyddus drwy hysbysebion teledu enwog Go Compare.
Mae hefyd yn rhan o gyfres Amdani sydd wedi ei datblygu’n benodol ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg, ac wedi’i graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Ariennir prosiect Amdani gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac fe’u cyhoeddir ar y cyd rhwng pedwar cyhoeddwr blaenllaw, gyda chefnogaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd CAA Cymru yn cyhoeddi pump o’r 20 llyfr yn y gyfres.
Wrth gyhoeddi Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare, meddai Delyth Ifan, Cyfarwyddwr CAA Cymru: "Rydym yn hynod falch o gyflwyno’r llyfrau newydd hyn i oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Yn ogystal â bod yn addas ar gyfer dysgwyr, mae’r llyfrau yn addas ar gyfer pobl sydd yn rhugl ond yn llai hyderus wrth ddarllen. Bydden ni hefyd yn annog unrhyw un sydd am ailgydio yn yr iaith i’w darllen."
Meddai Phyl Brake, cydlynydd Dysgu Cymraeg i’r Brifysgol: “Testun y llyfryn hwn yw hanes gonest, difyr a chryno’r canwr o dde Cymru. Fe’i hysgrifennwyd gan rywun a chanddi flynyddoedd lawer o brofiad ym maes Dysgu Cymraeg fel tiwtor, arholwr ac fel ysgrifennwr cyrsiau ei hunan. Mae’r eirfa a’r patrymau iaith a ddefnyddir yn berthnasol ac yn strwythuredig, ac mae rhestr fer o eirfa newydd ar waelod pob tudalen. Mae hanes Wynne Evans yn ddigon gafaelgar i gynnal diddordeb y darllenydd drwyddi draw, tra, ar yr un pryd, mae ailadrodd cyson yn sicrhau bod dysgwyr ar bob lefel yn ymgyfarwyddo’n isymwybodol â geirfa berthnasol a phatrymau iaith sylfaenol.”
Ategodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Bydd y gyfres newydd hon o lyfrau yn cefnogi'r hyn sy'n cael ei ddysgu yn y dosbarth ac yn adnodd gwerthfawr i ddysgwyr. Mae'n wych bod y llyfrau ar gael ar wahanol lefelau dysgu – bydd hyn yn helpu i fagu hyder dysgwyr hefyd. Gobeithiwn y bydd y fenter hon yn ffordd o ddenu dysgwyr at ddarllen llyfrau Cymraeg yn gyffredinol."
Hon yw’r drydedd gyfrol i CAA Cymru ei chyhoeddi yn y gyfres hyd yn hyn. Mae Y Llythyr a Cofio Anghofio, addasiadau o gyfrolau Saesneg poblogaidd, hefyd ar gael, a bydd cyfrolau gan Zoe Pettinger a Jon Gower yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.
Cafodd y llyfrau eu lansio ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd yr wythnos ddiwethaf, a bydd digwyddiadau amrywiol yn y Sioe Fawr, Tafwyl ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.