Microbau sy’n ffurfio cerrig - y da, y drwg a’r hyll

Robin Gerlach, Athro mewn Peirianneg Cemegol a Biolegol o Ganolfan Peirianneg Biofilm, Prifysgol Montana State, Bozeman, yr UDA.

Robin Gerlach, Athro mewn Peirianneg Cemegol a Biolegol o Ganolfan Peirianneg Biofilm, Prifysgol Montana State, Bozeman, yr UDA.

31 Mai 2018

Microbau sy’n ymwneud â chynhyrchu sement, gweithiau celf, adferiad amgylcheddol, difrod i adeiladau, cyrydiad a ffurfiad cerrig yn yr arennau fydd ffocws darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 6 Mehefin 2018.

Traddodir y ddarlith ‘Rock-Forming Microbes – The Good, the Bad and the Ugly’ gan Robin Gerlach, Athro mewn Peirianneg Cemegol a Biolegol o Ganolfan Peirianneg Biofilm, Prifysgol Montana State Bozeman, yr UDA.

Yn ei ddarlith bydd yr Athro Gerlach yn cynnig cipolwg ar weithredoedd y microbau wrth iddynt ffurfio a thoddi mwynau.

“Mae’r microbau hyn oddi mewn ac o’n cwmpas ni ym mhob man,” dywedodd yr Athro Gerlach, “ac, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, gallant gael eu defnyddio er lles neu achosi difrod.”

Mae’r Athro Gerlach a’i gydweithwyr yn ceisio harneisio’u harddwch, a rheoli’r bwystfil o fewn y microbau amrywiol hyn.

“Mae rheoli gweithredoedd y microbau hyn yn rhoi cyfle i ni ddatblygu deunydd adeiladu gwreiddiol, sefydlogi sylfaeni adeiladau ag argaeoedd, selio ffynhonnau sy’n gollwng, rheoli gwastraff ymbelydrol, creu darnau o gelf, a gwella’r driniaeth ac atal cerrig yn yr arennau”, ychwanegodd.

Cynhelir y ddarlith yn Narlithfa A6 adeilad Llandinam ar Gampws Penglais am 5:30 pm ddydd Mercher 6 Mehefin 2018. Cyn y ddarlith, am 5:00, cynhelir derbyniad diodydd yng nghyntedd adeilad Llandinam. Croeso i bawb.

Dywedodd yr Athro Paul Brewer, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae’n bleser gennym gynnal darlith gyhoeddus ddiweddaraf Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE) yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, sydd yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni. Edrychwn ymlaen at glywed darlith yr Athro Gerlach sy'n addo i roi cipolwg diddorol i fyd microbau, a sut y maent yn effeithio ar ein bywydau mewn ffyrdd na fyddai'r rhan fwyaf o bobl erioed wedi’u dychmygu.”

Mae'r digwyddiad yn rhan o gyfres ddarlithoedd cyhoeddus Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE).