Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd

25 Mai 2018

Mi fydd Prifysgol Aberystwyth yn dangos ei chefnogaeth unwaith eto i ŵyl ieuenctid fwyaf Cymru yr wythnos nesaf, wrth i filoedd o eisteddfodwyr ifanc gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, y Brifysgol yw noddwr ardal chwaraeon yr Eisteddfod, sydd yn cael ei chynnal eleni ar faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd rhwng 28 Mai a 2 Mehefin.  

Mae’r ardal chwaraeon, a fydd yn cynnig rhaglen lawn o sesiynau gan gynnwys criced, tenis, rygbi, hoci a phêl droed yn ystod yr Eisteddfod, yn rhan o fenter hirdymor rhwng y Brifysgol a’r Urdd i hyrwyddo darpariaeth chwaraeon a datblygu talent newydd ar draws Cymru.

Bydd eisteddfodwyr hefyd yn medru dilyn newyddion diweddaraf yr Ŵyl ar wal fideo enfawr ger y Pafiliwn ac ar sgrin fawr yng Nghaffi Mr Urdd, diolch i gefnogaeth y Brifysgol.

Ac mi fydd y cystadleuwyr ar eu hennill yn ogystal. Am y tro cyntaf ar ei stondin, sydd eleni yn Neuadd De Morgannwg, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig piano proffesiynol a gofod rihyrsal i unigolion neu grwpiau sydd eisiau ymarfer munud olaf cyn cystadlu.

Does dim angen archebu ymlaen llawn, ond os am gadw lle ymarfer yn ystod yr wythnos, cysylltwch ag Eurgain Haf Evans ar ehe2@aber.ac.uk.

Ac wrth gwrs, mi fydd cyfle i ymlacio a gwylio rhai o uchafbwyntiau’r Eisteddfod, megis y coroni a’r cadeirio, yn fyw ar y stondin drwy gydol yr wythnos.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn uchafbwynt yn y calendar ac rydyn ni’n hynod o falch o gael dangos ein cefnogaeth trwy noddi’r maes chwaraeon, y wal fideo a’r gofod ymarfer, a thrwy hynny gyfoethogi profiad eisteddfodwyr ar y maes, yn ymwelwyr neu’n gystadleuwyr. Bydd gennym fyfyrwyr yn cystadlu yn ystod yr wythnos hefyd gan gynnwys Aelwyd Pantycelyn felly pob hwyl a llwyddiant iddyn nhw ac i’r ŵyl.”