Y Nîl Oriog: 6,000 o Flynyddoedd o Newid Amgylcheddol yng Ngogledd Swdan
Yr Athro Jamie Woodward
23 Mai 2018
Bydd y cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth ac Athro Daearyddiaeth Ffisegol o Brifysgol Manceinion, yr Athro Jamie Woodward, yn dychwelyd i Aber yr wythnos hon i draddodi’r ddiweddaraf yng nghyfres darlithoedd canmlwyddiant yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Pwnc darlith yr Athro Woodward, a raddiodd mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth yn 1986, fydd ‘A Volatile Nile: 6,000 Years of Environmental Change in Northern Sudan’
Cynhelir y ddarlith, sydd yn agored i bawb, yn narlithfa A6 yn Adeilad Llandinam ar gampws Penglais am 6 yr hwyr, nos Fercher 23 Mai 2018.
Dywedodd yr Athro Paul Brewer, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: "Mae'n bleser bob amser croesawu cyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol ym maes Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn ôl i Aberystwyth, yn enwedig wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant. Mewn byd sy'n cael ei herio’n ddyddiol gan ganlyniadau newid amgylcheddol, bydd deall sut y bu i newidiadau i'r amgylchedd dros filoedd o flynyddoedd effeithio ar grud dynoliaeth yn ddiddorol ac yn berthnasol i'r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw.”
Geomorffolegydd yw’r Athro Woodward sydd â diddordeb penodol yn natur ac effeithiau newid amgylcheddol ar ranbarth Môr y Canoldir a basn y Nîl.
Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddau brosiect yn Nyffryn y Nîl yng Ngogledd Sudan gydag archeolegwyr o'r Amgueddfa Brydeinig yn archwilio'r berthynas rhwng gweithgaredd dynol a newid amgylcheddol dros y 10,000 mlynedd diwethaf.
Mae'r gwaith, a ariennir gan Gyngor Ymchwil Awstralia ac Ymddiriedolaeth Leverhulme, hefyd yn ei weld yn cydweithio gydag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Adelaide, Durham, Bergen a Manceinion.
Ers 2007 bu’r Athro Woodward yn golygu’r cynfnodolyn Geoarchaeology: An International Journal, ac yn 2016 cyhoeddodd The Ice Age: A Very Short Introduction gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen.