Cydnabod rhagoriaeth ymchwil rhewlifegydd o Aberystwyth
Yn osgytal â Medal SCAR, mae’r Athro Michael Hambrey wedi derbyn dwy Fedal y Pegynnau ac mae clogwyni yn Antarctica wedi eu henwi ar ei ôl.
21 Mai 2018
Mae rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ei gydnabod am ragoriaeth ei ymchwil yn Antarctica a Chefnfor y De, a’i wasanaeth rhagorol i gymuned ryngwladol Antarctica.
Dyfarnwyd Medal Rhagoriaeth Ymchwil Antarctica SCAR (Scientific Committee on Antarctic Research) 2018 i’r Athro Michael Hambrey, Athro Emeritws mewn Rhewlifeg yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Mae’r Athro Hambrey, sydd yn gyn Gyfarwyddwr Canolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth, yn gyn-enillydd Medal y Pegynau ar ddau achlysur (1989 a 2012).
Yn ogystal, cafodd ei ymchwil yn Antarctica ei gydnabod yn 2006 pan yr enwyd clogwyni ar Ynys James Ross ar ei ôl.
Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd yr Athro Hambrey: "Mae derbyn Medal Rhagoriaeth Ymchwil Antarctica SCAR 2018 yn destun balchder ac yn anrhydedd i mi. Bum yn ffodus i ymchwilio i rewlifoedd modern mewn sawl rhan o'r byd, a gallu defnyddio'r wybodaeth i ddehongli dilyniannau rhewlifol hŷn yn Antarctica a mannau eraill. Ni ellid bod wedi gwneud hyn heb y cydweithio rhyfeddol gyda chydweithwyr ar draws y byd, ac yn arbennig cymuned Antarctica. Diolchaf iddynt am eu cyfraniad, a Phwyllgor Gweithredol SCAR am y wobr hon.”
Dyfarnwyd Medal Rhagoriaeth Ymchwil Antarctica gan Bwyllgor Gwyddonol Ymchwil Antarctica y Cyngor Gwyddoniaeth Rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2006 er mwyn cydnabod cyfraniadau ymchwil cyson gydol gyrfa.
Mae'r wobr yn cydnabod mewnwelediadau nodedig yr Athro Hambrey ym maes rhewlifeg ac yn nodi'n benodol ei ddehongliad o ddilyniannau rhewlifol hynafol drwy gymhwyso ein dealltwriaeth o brosesau rhewlifol modern’.
Yn ogystal, cafodd ei waith ei gydnabod gan ei fod 'yn aml y dadansoddiad trylwyr cyntaf mewn sector penodol, ac os nad hynny, roedd yn ddieithriad yn arloesol’.
Mae meini prawf Medal SCAR wedi eu seilio ar gyfraniadau eithriadol person at yr hyn sy’n wybyddus ac effaith eu gwaith ar ddealltwriaeth o Antarctica, y cysylltiadau rhwng system Antarctica a'r Ddaear, a/neu arsylwadau ar ac o Antarctica.
Cyflwynir y fedal i’r Athro Hambrey yng Nghyfarfod XXXV SCAR, yn ystod Cinio Cynhadledd Polar2018 yn Davos ar 21 Mehefin 2018.
Mae'r Athro Hambrey yn ymuno â grŵp nodedig o enillwyr Medal SCAR, gan gynnwys Robert Dunbar (2016), Steven L. Chown (2014), John Priscu (2012), John Turner (2010), Angelika Brandt (2008) a Paul Mayewski (2006).