Urddo’r awdur Meic Stephens yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Meic Stephens, Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth, gyda’r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure (chwith), a’r Dirprwy Ganghellor Gwerfyl Pierce Jones.

Yr Athro Meic Stephens, Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth, gyda’r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure (chwith), a’r Dirprwy Ganghellor Gwerfyl Pierce Jones.

16 Mai 2018

Mae’r awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens, wedi ei urddo’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 3 Mai 2018, cafodd ei gyflwyno yn Gymrawd gan Ddirprwy Ganghellor y Brifysgol, Gwerfyl Pierce Jones.

Yn wreiddiol o Drefforest ger Pontypridd, astudiodd Meic Stephens Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio ym 1961 cyn mynd yn ei flaen i weithio fel athro Ffrangeg ac yna fel newyddiadurwr.

Sefydlodd Poetry Wales ym 1965 a bu’n olygydd y cylchgrawn am gyfnod o wyth mlynedd.

Ym 1967, cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a bu yn y swydd honno tan 1990.

Yn awdur, yn fardd ac yn olygydd toreithiog, mae ei gampweithiau yn cynnwys The Oxford Companion to the Literature of Wales (1986) a Library of Wales: Poetry 1900-2000, cyfrol swmpus o hanes a gweithiau cant o feirdd o Gymru.

Bu’n newyddiadurwr ar y Western Mail am gyfnod yn ei flynyddoedd cynnar, ac mae ei gysylltiad gyda’r papur wedi parhau ar hyd y blynyddoedd wrth iddo gyfrannu erthyglau ar lenyddiaeth. Mae hefyd yn gyfrannwr cyson o ysgrifau coffa i Gymry amlwg yn y Guardian a’r Independent.

Yn 2000, fe’i penodwyd yn Athro Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a than yn ddiweddar roedd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Rhys Davies.

Cyflwynir Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad â Phrifysgol Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Y cyflwyniad i Meic Stephens:
Ganed Meic Stephens yn Nhrefforest, ger Pontypridd yn Sir Forgannwg ym 1938, yn fab i weithiwr diwydiannol. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle enillodd radd yn y Ffrangeg ym 1961. Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Rennes yn Llydaw hefyd.

Tra oedd yn Aberystwyth cafodd flas ar lenydda a newyddiadura fel golygydd Y Ddraig a Courier, sef cylchgrawn a phapur newydd y Coleg, a dechreuodd farddoni. Aeth ymlaen i gael ei hyfforddi fel athro i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor.

Ei swydd gyntaf oedd dysgu’r Ffrangeg yng Nglynebwy yn sir Fynwy. Tra oedd yn byw ym Merthyr Tudful, cychwynnodd Poetry Wales, cylchgrawn oedd ar flaen y gad yn ei ddydd ac a gyhoeddir o hyd fel un o brif gyfnodolion llenyddol Cymru.

Tua’r un amser ymunodd â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a sefyll dros Blaid Cymru ym Merthyr yn Etholiad 1966. Bu’r rebel ifanc ar Bont Trefechan ym mhrotest gyntaf y Gymdeithas ym 1963. Dywedir hefyd mai Meic oedd yn gyfrifol am baentio’r slogan enwog ‘Cofiwch Dryweryn’ ar wal yng nghyffiniau Llanrhystud ond taw piau hi am hynny!

Roedd wedi cael ei fagu ar aelwyd Saesneg, ond tua’r adeg yma, yn enwedig ar ôl priodi Ruth Wynn Meredith o Aberystwyth, aeth ati o ddifri i feistroli’r Gymraeg, ei drydedd iaith, a’i gwneud yn iaith ei gartref a’i galon. Mae gan Ruth a Meic bedwar o blant ac un ar ddeg o wyrion a wyresau, ac mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf i bob un ohonynt.                

Er bod y Gymraeg yn hollbwysig iddo, mae wedi ymdrechu’n galed dros yr iaith Saesneg hefyd, yn enwedig llenyddiaeth Saesneg ein gwlad, gan gael ei gydnabod yn dipyn o Stacanofeit yn hyn o beth. Mae wedi cyhoeddi toreth o lyfrau, tua 160 ohonynt i gyd, gan gynnwys y gyfres Writers of Wales (ar y cyd â’r Dr R.Brinley Jones, cyn-Lywydd y Llyfrgell Genedlaethol).

Ei gampwaith yw The Oxford Companion to the Literature of Wales/Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, sydd wedi bod yn anhepgor i genedlaethau o fyfyrwyr a’u hathrawon. Yn fwy diweddar, ac ar y cyd â’r diweddar Gwyn Griffiths, mae wedi golygu’r gyfrol swmpus The Old Red Tongue ar gyfer darllenwyr di-Gymraeg sydd am wybod rhagor am ogoniannau llenyddiaeth Cymru ar hyd y canrifoedd. Mae’r llyfrau hyn yn adlewyrchu ei feddylfryd rhyngwladol ac yn anelu at gynulleidfa fyd-eang.

Felly hefyd yn ei yrfa fel swyddog Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 1967 a 1990: hybu’r llenyddiaeth frodorol yn y ddwy iaith trwy ledaenu gwybodaeth am ddiwylliant ein gwlad i’r Cymry a thros Glawdd Offa oedd ei nod.

Fe gychwynnodd sawl cynllun yn y byd cyhoeddi gan gynnwys gwobrau ac ysgoloriaethau i awduron, grantiau i gylchgronau a chyhoeddwyr, a chymorth i gyrff megis y Cyngor Llyfrau. O dan ei arweiniad ef tyfodd Cyngor y Celfyddydau i fod yn un o brif gyrff cyhoeddus Cymru.

Cafodd gyfle gwych i edrych ar ei wlad o bell ym 1993 pan aeth i Brifysgol Brigham Young ym Mhrovo, ger Salt Lake City, ar ôl derbyn gwahoddiad i fod yn Athro Saesneg yno. Ceir adroddiad difyr ond beirniadol ar ei fywyd ymhlith y Mormoniaid yn y gyfrol A Semester in Zion. Buan iawn y dychwelodd i Gymru, pan benodwyd ef yn ddarlithydd gan Brifysgol Morgannwg a chafodd gadair bersonol yno yn y man, o fewn canllath i’w hen gartref yn Nhrefforest.

Er ei fod wedi cael gyrfa tu hwnt o brysur, mae wedi dod o hyd i’r amser i gyhoeddi ei hunangofiant, sef Cofnodion/ MyShoulder to the Wheel, yn ogystal â pheth o’i farddoniaeth ei hun yn y gyfrol Wilia, sef cerddi yn y Wenhwyseg, hen dafodiaith Morgannwg a Gwent. Mae wedi hogi ei sgiliau fel newyddiadurwr trwy ysgrifennu erthyglau coffa am Gymry amlwg i bapurau Llundain.

Mae cyfraniad yr Athro Meic Stephens i’r diwylliant cenedlaethol wedi cael ei gydnabod gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’i ysgolheictod gan Brifysgol Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Ond mae’r anrhydedd hon gan ei hen Goleg cyn bwysiced yn ei olwg ef a mawr yw ei ddiolch amdani.