Astudiaeth newydd yn dangos teneuo sylweddol i rewlif ym Mhatagonia
Lluniau a dynnwyd yn ystod Taith Lluoedd Prydeinig ar y Cyd yn 1973 (chwith) ac eto yn 2017 sydd yn dangos y newid a welwyd ar Rewlif Benito. Llun: Martin Sessions
09 Mai 2018
Mae ymchwil newydd yn dangos bod Rhewlif Benito yng ngogledd Patagonia wedi teneuo 133 metr yn y 44 mlynedd diwethaf.
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan dîm o ymchwilwyr rhyngwladol, sydd yn cynnwys rhewlifegwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Maen nhw'n dweud mai meysydd rhew gogledd a de Patagonia yw dau o'r masau rhew mwyaf sensitif ar y Ddaear i newid yn yr hinsawdd, ac y gallant ddod yn brif gyfrannwr i godi lefelau môr a achosir wrth i rewlifoedd yn y mynyddoedd a chopaon iâ ddadlaith.
Mae casgliadau'r tîm yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o’r modd y mae wyneb Rhewlif Benito wedi disgyn rhwng 1973 a 2017.
Y man cychwyn ar gyfer yr ymchwil oedd arolwg proffil o wyneb y rhewlif gan Daith Lluoedd Prydeinig ar y Cyd yn 1973, taith yr oedd Martin Sessions - un gyd-awduron yr astudiaeth - yn arweinydd gwyddonol arni.
Dychwelodd Martin, ei fab Mark ac ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth i Benito ym mis Ebrill 2017 i olrhain proffiliau wyneb y rhewlif a chynnal arolwg newydd gan ddefnyddio'r dechnoleg GPS ddiweddaraf.
Dangosodd arolwg 2017 fod lefel wyneb Rhewlif Benito wedi gostwng a theneuo 133 metr yn ystod y cyfnod o 44 mlynedd.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Mai 2018 yn y cyfnodolyn Frontiers in Earth Science: Rapid Surface Lowering of Benito Glacier, Northern Patagonian Icefield
Dywedodd yr Athro Alun Hubbard, ymchwilydd o Ganolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth: “Mae'r astudiaeth hon yn tynnu sylw at y graddau eithriadol o deneuo iâ sydd i’w weld ym Mhatagonia. Mae 20 mlynedd ers i mi ymweld â meysydd iâ Patagonia am y tro cyntaf, pan yr arweinies i’r daith gyntaf ddi-gymorth ar eu traws o’r gogledd i’r de, gan ddringo nifer o gopaon nad oedd wedi eu dringo o’r blaen a gwneud cyfres o fesuriadau geo-ffisegol yn yr ardal. Ers y daith honno, gwelwyd colli iâ rhewlifol heb ei debyg o’r blaen yn y rhanbarth, ac, fel mae’r papur newydd yn dangos, daeth yn gyfrannwr o bwys at y cynnydd byd-eang yn lefel y môr.”
Mae rhagamcanion ar gyfer diwedd yr unfed ganrif ar hugain yn dangos y bydd y dadlaith yn cynyddu ymhellach, a gostyngiad yn yr eira a fydd yn cwympo dros feysydd iâ gogledd Patagonia wrth i'r tymheredd barhau i godi.
Dywedodd Dr Ryan Wilson, Darlithydd Cyswllt yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Canfu'r tîm fod tymheredd blynyddol cyfartalog yr aer yn y rhanbarth wedi codi ar gyfradd o 0.2◦C fesul degawd ers 1960. Er bod cyfaint y glaw a’r eira wedi parhau’n gyson rhwng 1970 a 2000, bydd tymheredd aer cynhesach wedi cynyddu'r gyfran sydd yn disgyn fel glaw yn hytrach nag eira, gan leihau'r cyfraddau cronni ar wyneb y rhewlif a chynyddu’r dadlaith."
“Rhwng 2000 a 2013 gwelwyd gostyngiad bach yn y tymhered a chynnydd yn yr eira a ddisgynodd, ac mae'n ymddangos bod hyn wedi arafu’r gostyngiad yn wyneb y rhewlif yn gyflym. Fodd bynnag, yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf (2013-2017), gwelwyd cynnydd unwaith eto yn y gostyngiad - gan fwy na dyblu o'i gymharu â chyfnod 1973-2000, a phedair gwaith yn fwy o'i gymharu â chyfnod 2000-2013.”
Cyhoeddir y papur Rapid Surface Lowering of Benito Glacier, Northern Patagonian Icefield yn llawn yn y cyfnodolyn Frontiers in Earth Science.