Cyn-fyfyrwraig Seicoleg yn ennill Ysgoloriaeth Gates Cambridge
Melisa Basol yn astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth
08 Mai 2018
Mae cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill un o ysgoloriaethau Gates Cambridge.
Fe raddiodd Melisa Basol gyda BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2017 cyn mynd i Brifysgol Caergrawnt i astudio am MPhil.
Bydd yn dechrau ar ddoethuriaeth mewn Seicoleg yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt, yn hydref 2018.
Mae Melisa yn un o 92 o fyfyrwyr a fydd yn cychwyn ar eu hysgoloriaethau yn hwyrach eleni, ar ôl cael eu dewis o gyfanswm o 5,798 o ymgeiswyr.
Caiff Ysgoloriaethau Gates Cambridge eu dyfarnu i bobl o bob cwr o’r byd sy’n rhagori o ran gallu academaidd ac ymroddiad cymdeithasol, ac mae’n cael ei chydnabod fel yr ysgoloriaeth ôl-raddedig ryngwladol uchaf ei bri ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Meddai Melisa: “Mae’n anrhydedd fawr i mi gael bod yn rhan o gymuned o unigolion uchelgeisiol sydd yn rhannu’r un syniadau ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth. A thra bod y gronfa hon yn hael ac uchel iawn ei bri, rwy’n ymwybodol na fyddai hyn yn bosibl heb ymddiriedolaeth a chefnogaeth ddiamod fy adran yn Aber. Adlewyrchiad yn unig yw’r hyn rwyf wedi ei gyflawni o'r arweiniad a'r anogaeth a dderbyniais trwy gydol fy ngradd israddedig a thu hwnt.”
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Ar ran Prifysgol Aberystwyth, hoffwn estyn llongyfarchiadau gwresog i'n alumna Melisa a dymuno pob llwyddiant iddi yn ei ysgolheictod newydd. Rwy'n ymwybodol bod y gystadleuaeth ar gyfer Ysgoloriaeth Gates Cambridge yn ddwys, ac mai dim ond y rheiny sy'n dangos gallu deallusol eithriadol, ymrwymiad i wella bywydau pobl eraill a photensial arweinyddiaeth go iawn sy’n llwyddiannus, felly mae hyn yn gyflawniad arbennig.”
Dywedodd yr Athro Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae'r tîm Seicoleg yma yn Aberystwyth yn gweithio'n galed iawn i helpu myfyrwyr i fod y gorau y gallant. Roedd yn amlwg i ni yn gynnar iawn ei bod hi'n fyfyriwr eithriadol ac rydym yn hynod falch o'i llwyddiannau. Mae gennym ni oll fyfyrwyr y byddwn ni’n eu cofio am byth ac sy'n gwneud ein penderfyniad i weithio mewn prifysgolion hyd yn oed yn fwy gwerth chweil - ac mae Melisa yn sicr yn un o'r rheiny.”
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth yn 2000 diolch i gyfraniad o $210 miliwn gan Sefydliad Bill & Melinda Gates, ac mae oddeutu 90 o ysgolheigion o Gaergrawnt yn cael eu dethol bob blwyddyn o blith ymgeiswyr academaidd mwyaf disglair y Brifysgol.
Nod Ysgoloriaeth Gates Cambridge yw pennu a dewis ymgeiswyr sy'n eithriadol yn academaidd ac sy'n debygol o fod yn arweinwyr trawsnewidiol ar draws pob maes.
Mae'r Ysgoloriaeth hefyd yn rhoi pwyslais ar ddewis pobl sy’n gallu profi bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwella bywydau pobl eraill a hynny trwy helpu i fynd i'r afael â'r heriau niferus yr ydym yn eu hwynebu yn lleol, yn rhanbarthol ac yn fyd-eang.
Dywedodd yr Athro Barry Everitt, Profost Ymddiriedolaeth Gates Cambridge: "Rydym wrth ein bodd ag ansawdd eithriadol y ceisiadau ar gyfer rhaglen Gates Cambridge 2018. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi dewis 92 o Ysgolheigion ardderchog o ystod eang o gefndiroedd i ddilyn eu hastudiaethau graddedig yng Nghaergrawnt ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu croesawu i Gaergrawnt a chymuned Gates Cambridge ym mis Hydref."
AU20518