Buddsoddiad o bwys i Theatr y Werin
Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (chwith) yn trafod cynlluniau ailwampio Theatr y Werin gyda Nick Bache, Rheolwr Technegol.
27 Mawrth 2018
Mae un o brif theatrau Cymru ar fin elwa o fuddsoddiad sylweddol mewn systemau trydanol a seddi newydd.
Bydd Theatr y Werin, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn cau ei drysau ar 3 Ebrill ar gyfer y prosiect £0.75m, a fydd yn cynnwys gosod system drydanol gyfan newydd am y tro cyntaf ers iddi agor yn 1972.
Cyllidir y gwaith gan Brifysgol Aberystwyth, a bydd yn cynnwys system oleuadau cynhyrchu newydd, goleuadau arbed ynni a system oleuadau argyfwng hunan-arbrofi.
Yn ogystal, bydd seddi a charpedi newydd yn cael eu gosod yn yr awditoriwm 300 sedd.
Gan fod y gwaith yn mynd i gymryd hyd at 6 mis i’w gwblhau, bydd rhaglen haf y Ganolfan eleni’n canolbwyntio ar fyd y syrcas, gyda phabell fawr wedi ei gosod tu cefn i’r Ganolfan.
Mae gwledd o adloniant a sioeau poblogaidd ar droed gan gynnwys perfformiadau acrobatig rhyfeddol, gwesteion dirgel, gigs cerddoriaeth, theatr gerdd, sioeau teulu a phicnic mawr, rhain i gyd yn cyd-fynd â dathlu pen-blwydd y syrcas yn y DU yn 250.
Y babell syrcas hefyd fydd lleoliad gŵyl gerddoriaeth Canolfan y Celfyddydau eleni a fydd yn cael ei gynnal ganol Awst yn hytrach na chanol Mehefin yn ôl yr arfer.
Mae cynlluniau ar waith hefyd ar gyfer sinema awyr agored gyntaf Canolfan y Celfyddydau, yn ogystal â’r cyrsiau haf a’r profiadau arferol.
Bydd holl adnoddau eraill Canolfan y Celfyddydau ar agor fel arfer tra bod y gwaith ar Theatr y Werin yn mynd rhagddo.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth: “Rydym yn hynod falch fod Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi yng Nghanolfan y Celfyddydau, ac er y bydd y Theatr eiconig hon ar gau dros yr haf, bydd rhaglen wych o ddigwyddiadau eraill mewn lleoliadau eraill o fewn Canolfan y Celfyddydau, llawer ohonynt yn y babell fawr ar Gwrt y Capel ym mis Awst. Mae ailfuddsoddi yn y celfyddydau yn hanfodol wrth i ni weithio at sicrhau bod Aberystwyth yn parhau fel un o brif ganolfannau celfyddydol Cymru.”
Croesawyd y buddsoddiad gan Gyfeillion Canolfan y Celfyddydau. Dywedodd Carol Nixon: “Mae cyfeillion Canolfan y Celfyddydau yn falch iawn fod Theatr y Werin yn derbyn y bleidlais hon o hyder. Rydym yn ddiolchgar i’r Brifysgol eu bod, yn yr amseroedd anodd hyn yn cydnabod yr angen i fuddsoddi yn nyfodol y celfyddydau. Dychmygwch Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth heb ei theatr. Rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd, ac mae llawer ohonynt yn aelodau o’r Cyfeillion, yn oddefgar a chefnogol wrth i’r gwaith fynd rhagddo.”
Bydd amrywiaeth eang o berfformiadau rhwng Ebrill a diwedd Gorffennaf gan gynnwys comedi gyda Shazia Mirza, Tim Key, Tudur Owen a’r Clwb Comedi.
I’r rhai sy’n hoff o gerddoriaeth bydd perfformiadau gan Hakoustic, y ffefrynnau lleol The Hornettes, The Conductor, a’r ŵyl flynyddolMusicfest, a fydd yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, a llawer mwy.
I deuluoedd bydd Arad Goch yn dychwelyd gyda drama newydd Na Nel gan Meleri Wyn James a rêf i’r teulu cyfan, ac i’r rhai sy’n hoff o ddramâu bydd yr hudolus Old Herbaceous (sy’n cynnwys hadau am ddim!) a chynhyrchiad uchelgeisiol newydd o Hamlet yn y Neuadd.
Ceir mwy o wybodaeth am berfformiadau a digwyddiadau ar wefan Canolfan y Celfyddydau.