Ymchwil yn dangos bod Titw Mawr trefol yn fwy ymosodol
Mae Titw Mawr sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn fwy digywilydd ac ymosodol na’u cyfoedion gwledig wrth amddiffyn eu tiriogaeth
26 Mawrth 2018
Mae Titw Mawr sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn fwy digywilydd ac ymosodol na’u cyfoedion gwledig wrth amddiffyn eu tiriogaeth, yn ôl ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn Scientific Reports.
Bu gwyddonwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn archwilio sut mae adar yn addasu eu hymddygiad mewn ymateb i newidiadau mewn cynefinoedd sy'n cael eu gyrru gan bobl megis trefoli.
Bu Dr Sam Hardman yn gwerthuso gwahaniaethau mewn ymddygiad ymosodol Titw Mawr trefol a gwledig (Parus major) wrth amddiffyn tiriogaeth.
Ei nod oedd profi os oedd “personoliaeth” wahanol gan adar trefol a gwledig.
Dywedodd Sam: “Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae adar gwryw yn sefydlu tiriogaethau ar gyfer y tymor bridio ac yn eu hamddiffyn rhag adar gwryw o’r un rhywogaeth.
“Bum yn efelychu tresmaswr tiriogaethol wrth chwarae recordiad o gân y Titw Mawr trwy uchelseinydd yng nghanol y diriogaeth, ac yna monitro ymatebion yr adar preswyl wrth iddynt amddiffyn y diriogaeth honno.”
Cynhaliwyd yr astudiaeth ym mis Mawrth a mis Ebrill 2015 mewn tiriogaethau Titw Mawr ynghanol dinasoedd Caerlŷr a Derby, ac mewn ardaloedd gwledig cyfagos sydd heb eu datblygu.
Roedd yr ymatebion a fesurwyd yn cynnwys canu tiriogaethol a pha mor gyflym ac agos yr oedd yr adar yn herio’r ymosodwr canfyddedig.
Dywedodd Sam: "Roedd y mesuriadau hyn yn ein galluogi i benderfynu ar lefelau ymosodedd yr adar. Ystyriwyd bod adar a oedd yn ymateb yn gyflymach ac yn agosach yn fwy ymosodol.”
“Gwelsom fod adar trefol yn hedfan tuag at yr uchelseinydd 35.34 eiliad yn gyflymach nag adar gwledig ac 1.63 metr yn nes, gan awgrymu bod adar trefol yn fwy digywilydd ac ymosodol nag adar gwledig.”
Er mwyn profi gwahaniaethau personoliaeth mewn Titw Mawr trefol a gwledig, fe ail-adroddwyd yr un profion ar yr un unigolion dros ddau ddiwrnod gwahanol.
Byddai hyn yn profi a fyddai’r un adar yn ail-adrodd eu ymateb sawl gwaith, neu’n ymateb mewn ffordd gwbl wahanol bob tro. Mewn ymchwil ymddygiad anifeiliaid, ystyrir ymddygiad o ailadrodd yn dystiolaeth o bersonoliaeth.
Tra bod adar gwledig yn dangos ymatebion ailadroddus ym mhob un o'r pump ymateb a fesurwyd, dangosodd adar trefol ymatebion ailadroddus ddwy waith yn unig.
Mae hyn yn awgrymu, er y gall amgylcheddau gwledig fod yn ffafrio cysondeb ymddygiadol, bod adar mewn amgylcheddau trefol yn arddangos amrediad llawer ehangach o ymddygiadau sy'n awgrymu mwy o hyblygrwydd ymddygiadol yn y poblogaethau hyn.
Mae'n bosibl fod yr hyblygrwydd cynyddol hwn yn caniatáu i rai titws mawr addasu'n llwyddiannus i gynefinoedd trefol newydd a manteisio ar yr adnoddau newydd y maent yn eu darparu, megis bwyd a thiriogaethau newydd.
Mae Sam yn gweithio i Sefydliad Adareg Max Planck yn Seewiesen yn yr Almaen ar hyn o bryd, lle mae’n astudio ymateb Titw Mawr i straen.