UMCA yn symud i gartef newydd dros dro
Aelodau UMCA yn clirio’r swyddfa ym Mhantycelyn wrth i’r paratoadau i adnewyddu’r neuadd barhau. O’r chwith i’r dde mae Gwion Llwyd, Fflur Evans, Jeff Smith, Sioned Thomas, Anna Wyn Jones and Siriol Elis.
23 Mawrth 2018
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn symud i gartref newydd yn ystod y diwrnodau nesaf, fel rhan o’r paratoadau ar gyfer dechrau ar y gwaith o adnewyddu Neuadd Pantycelyn.
Heddiw bu aelodau UMCA yn clirio eu swyddfa ym Mhantycelyn, fu’n gartref i’r Undeb ers sawl degawd.
Mae’r Undeb yn symud dros dro i Bantycelyn–Penbryn, llety myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth tan i Bantycelyn ail agor yn Medi 2019.
Yn ôl Llywydd UMCA Gwion Llwyd, roedd y gwaith o glirio’r swyddfa yn gyfle i ddidoli blynedd o gyhoeddiadau megis Llais y Lli a’r Ddraig, posteri gigs y ddawns ryngolegol, lluniau, baneri a phlacaridiau ymgyrchoedd UMCA a llawer mwy.
“Mae wedi bod yn ddiwrnod reit emosiynol wrth i ni weld hanes UMCA yn cael ei roi mewn bocsus er mwyn symud popeth o’r swyddfa er mwyn i’r gwaith adeiladu gael dechrau”, dywedodd Gwion.
“Mae’r symud yn garreg filltir bwysig ac rydym yn gwybod taw trefniant dros dro fydd hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at symud yn ôl pan fydd Pantycelyn yn agor o’r newydd.”
“Rydym wedi gwerthfawrogi’r cyfle a roddwyd i ni gan y Brifysgol i gael aros ym Mhantycelyn tra bod y cynlluniau i wedd-newid neuadd yn cael eu datblygu. Mae hyn wedi galluogi’r gymuned fywiog a gwerthfawr o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yma yn Aberystwyth i gynnal y cysylltiad gyda’r adeilad eiconig hwn.”
“Yn y cyfamser, rydym yn edrych ymlaen at wasanaethu myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth o Bantycelyn–Penbryn”, ychwanegodd.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol: “Dyma’r cam diweddaraf wrth i ni baratoi i ddechrau ar y gwaith o adnewyddu Pantycelyn yn llety o’r radd flaenaf ac yn Ganolfan Gymraeg i’r Brifysgol a thu hwnt. Hoffwn ddiolch yn fawr i UMCA am eu cefnogaeth wrth i ni ddatblygu cynlluniau cyffrous ar gyfer yr adeilad holl bwysig hwn ac edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu’r undeb yn ôl i Bantycelyn pan fydd y neuadd yn agor ar ei newydd wedd.”
Agorodd Pantycelyn ei drysau am y tro cyntaf ym 1951, ac fe’i dynodwyd yn neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg ym 1973.
Ers Medi 2015 mae Bwrdd Prosiect Pantycelyn wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer ail-ddatblygu’r neuadd ac ym mis Tachwedd 2017 cymeradwyodd Cyngor y Brifysgol becyn cyllid gwerth £12m ar gyfer y prosiect.