Myfyrwyr o Aberystwyth i fynychu cynhadledd Menywod mewn Ffiseg
Kate Warren (chwith) a Sigrid Mathieson, a fydd yn mynychu Cynhadledd Menywod Israddedig mewn Ffiseg (CUWiP) ym Mhrifysgol Rhydychen diolch i fwrsariaeth deithio oddi wrth yr Adran Ffiseg
14 Mawrth 2018
Bydd dwy fyfyrwraig yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth yng Nghynhadledd Menywod Israddedig mewn Ffiseg (CUWiP) y DU 2018 yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Bydd Kate Warren, myfyrwraig blwyddyn gyntaf, a Sigrid Mathieson, sydd yn ei hail flwyddyn yn mynychu’r gynhadledd ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 15 a 18 Mawrth 2018.
Mae eu presenoldeb yn y gynhadledd yn bosibl diolch i fwrsariaeth deithio oddi wrth yr Adran Ffiseg.
Meddai Sigrid Mathieson: “Fy mhrif reswm dros wneud cais i fynychu’r gynhadledd oedd oherwydd fy mod am osod esiampl i ferched ymhob man a'u helpu i ddod o hyd i'w hangerdd yn y maes a pheidio bod âg ofn mentro. Hefyd, bydd yn gyfle gwych i glywed rhai o’r menywod mwyaf blaenllaw ym maes ffiseg.”
Nod y gynhadledd yw cynorthwyo menywod sydd yn astudio ffiseg i barhau yn y maes drwy gymryd rhan mewn cynhadledd sy'n canolbwyntio ar eu datblygiad fel gwyddonwyr ac arddangos opsiynau ar gyfer eu dyfodol addysgol a phroffesiynol.
Dywedodd y darlithydd Dr David Langstaff: “Mae'r Adran Ffiseg yn falch o hyrwyddo rôl menywod mewn gwyddoniaeth a pheirianneg ac mae'n arbennig o’i statws Ymarferwr Juno a ddyfarnwyd iddi gan ein corff proffesiynol, y Sefydliad Ffiseg, i gydnabod hyn.”
Mae rhaglen y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan ffisegwyr nodedig ar eu hymchwil arloesol a llwybrau gyrfa.
Bydd paneli arbenigol yn ateb cwestiynau ar astudiaethau graddedig a chyfleoedd gyrfa y tu hwnt i’r byd academaidd; cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai a theithiau o amgylch labordai’r brifysgol yn Rhydychen a Chanolfan Egni Ymledol Culham.