Myfyriwr seicoleg a’i ast ddefaid yn anelu am bencampwriaeth Crufts
Ben Tandy a Haze a fydd yn cystadlu yn Crufts
08 Mawrth 2018
Mae myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a’i gyfeilles ffyddlon, ast ddefaid deirblwydd, yn wynebu’r her o gystadlu yn sioe gŵn bwysicaf y byd.
Myfyriwr Seicoleg yn ei flwyddyn gyntaf yw Ben Tandy, ac mae e a Haze, collie las, yn cystadlu yng nghystadleuaeth ystwythder Crufts heddiw, ddydd Iau 8 Mawrth 2018.
Mae Ben, o'r Amwythig, wedi bod yn hyfforddi cŵn fel aelod o dîm ers 9 mlynedd, ond dyma ei 2il flwyddyn o gystadlu yn unigol gyda Haze, gast lloches.
Pan gyrhaeddodd gartref Ben am y tro cyntaf, roedd Haze wedi ei churo’n wael ac mewn cyflwr ofnus a thruenus.
"Roedd hi’n ofn ei chysgod pan ddaeth hi ataf gyntaf o’r lloches a daethom yn gyfeillion pennaf bron ar unwaith”, dywedodd Ben.
“Mae Haze yn dwli cael ei hyfforddi, ac roedd derbyn y llythyr gan Crufts i ddweud ein bod wedi cyrraedd y rownd derfynnol yn deimlad anhygoel. Mae’r byd ystwythder cŵn yn un cystadleuol iawn ac ni allaf gredu fy mod wedi ennill fy lle i gystadlu yn erbyn goreuon y byd yn y categori oedran 18-24.”
Wedi iddo symud i’r Brifysgol, roedd Ben yn gweld eisiau ei gŵn yn fawr iawn.
“Roedd hi’n anodd iawn setlo yma ar y dechrau gan yr oeddwn yn gweld eisiau’r cŵn, mae gen i dri chi adre. Roedd hyn yn golygu bod rhai i fy mam wneud y gwaith hyfforddi. Ond pan fyddaf yn mynd adre, nid yw Haze yn gadael fy ochr.”
“Ond roedd Aberystwyth yn un o’r llefydd mwyaf caredig. Roedd pawb mor groesawgar yn ystod fy ymweliad â’r lle ac roedd hynny yn ddigon i fy narbwyllo i astudio yma. Rwy'n mwynhau synnwyr digrifwch y darlithwyr hefyd, mae’n gwneud dysgu yn haws.”
Penderfynodd Ben astudio Seicoleg oherwydd ei fod am helpu pobl ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn seicoleg fforensig ac adfer troseddwyr. Mae'n ystyried ymuno â'r heddlu ond yn awyddus i ennyn fwy o brofiad bywyd cyn ymrwymo i hynny. Yn y pen draw, byddai'n hoff o weithio gydag uned hyfforddi cŵn yr heddlu gan ddefnyddio ei brofiad fel hyfforddwr.
Mae’n teimlo bod ei gwrs yn berthnasol i’w hobi, a dywed ei fod wedi bod o gymorth mawr. Nid yw'n cytuno ag atgyfnerthu negyddol oherwydd byddai hynny yn torri’r cwlwm tyn sydd rhyngddo ef â Haze.
"Mae fy arddull o hyfforddi cŵn wedi ei selio ar gyflyru clasurol. Os yw fy nghi yn hapus, mi fydd hi’n siwr o fy mhlesio i. Haze sydd yn fy nghymell i ennill. Pan mae’r llygaid glas ffyrnig ‘na yn edrych i mewn i’n rhai i, a deud “Awê!” rwy'n gwneud fy ngorau. Mae hi wrth ei bodd gyda fi a finnau gyda hi.”
Mae Ben ychydig yn nerfus am yr her ac yn teimlo’r pwysau oherwydd mai dim ond un cyfle sydd ganddo i gerdded y cwrs cyn y gystadleuaeth.
“Bydd yna dyrfa swnllyd o gwmpas y cylch arddangos ond bydd rhaid cau hwnna i gyd allan a chanolbwyntio yn gyfan gwbl ar Haze. Ni allaf gredu bod gast, gafodd ei cham-drin mor wael, bellach ymhlith yr 20 ci ystwythder gorau yn y byd. Rwy'n gobeithio bydd cymhwyso ar gyfer Crufts eleni yn arwain at bethau gwell fyth.”
Dywedodd yr Athro Nigel Holt, pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Ben yn ychwanegiad gwych i’r adran. Mae ei frwdfrydedd dros y pwnc yn heintus ac nid yw’n syndod o gwbl i mi bod hyn yn un o’i ddiddordebau. Mae’n ddefnydd amlwg o egwyddorion dysgu. Rwy’n hynnod falch o’r ffaith ei fod wedi cyrraedd Crufts a byddaf yn edrych amdano ar y teledu yng nghwmni fy nghi fy hun.”