Tystiolaeth angof yn datgelu perthynas Winston Churchill
Dr Warren Dockter, awdur Churchill and the Islamic World: Orientalism, Empire and Diplomacy in the Middle East a golygydd Winston Churchill at the Telegraph.
01 Mawrth 2018
Mae ymchwil newydd yn dangos i Winston Churchill gael perthynas fer gydag un o ffigyrrau amlycaf y byd cymdeithasol, Y Foneddiges Doris Castlerosse yn y 1930au, yn ôl ei gyn ysgrifennydd preifat.
Daethpwyd o hyd i recordiad o gyn ysgrifennydd preifat Churchill, Jock Colville, lle mae’n datgelu bod arweinydd Prydain yn ystod y rhyfel wedi cael perthynas fer gyda’r wraig ddadleuol yn Ne Ffrainc, gan Dr Warren Dockter o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a'r Athro Richard Toye, Pennaeth Hanes ym Mhrifysgol Caerwysg.
Mewn cyfweliad gafodd ei recordio yn 1985 mae Coleville, confidant a chynorthwyydd agos i Churchill, yn dweud bod y stori yr oedd am ei hadrodd braidd yn ddadleuol ac nad oedd am iddi weld golau dydd am amser hir.
Datgelodd, pan bu iddo ymweld â Winston a'i wraig Clementine yn y 1950au hwyr, bod cynorthwyydd llenyddol Churchill, Denis Kelly, wedi cyflwyno llythyron cariad gan Y Foneddiges Castlerosse i Clementine. Trodd Clementine Churchill yn welw wedi iddi’u darllen, dywedodd.
Yn ôl Colville, bu Clementine yn pryderu am y bennod am fisoedd ac yn dweud wrtho nad oedd erioed, cyn hynny, wedi meddwl bod Winston wedi bod yn anffyddlon.
Mae'r ymchwil, sydd i'w gyhoeddi yn y cyfnodolyn Journal of Contemporary History - ac yn ymddangos yn rhaglen ddogfen Channel 4 Secret History – yn cynnwys tystiolaeth gan nith Castlerosse, Caroline Delevingne, a ddatgelodd fod ei theulu wedi gwybod am y berthynas.
Yn ogystal â ffotograffau o Churchill a’r Foneddiges Castlerosse gyda'i gilydd, mae'r dogfennau sydd ym meddiant y teulu yn cynnwys llythyr hir a chariadus o 1934 lle mae Churchill yn ei chymharu â phelydryn haul.
Ymddengys bod Churchill wedi cynnal y berthynas yn y 1930au tra ar ei wyliau bedair gwaith yn Ne Ffrainc heb ei wraig Clementine. Peintiodd o leiaf ddau bortread o Castlerosse – darnau gafodd eu dwyn ymaith gan ffrind Churchill, Barwn y Wasg, yr Arglwydd Beaverbrook, ar ôl marwolaeth Castlerosse yn sgil gorddos o dabledi cysgu yng Ngwesty'r Dorchester yn 1942.
O fagwraeth faestrefol gyffredin yn Beckenham, De Ddwyrain Llundain, daeth Doris, Is-Iarlles Castlerosse, yn ffigwr cymdeithasol dadleuol, gyda chyfres o gariadon cyfoethog. Roedd yn dal, yn benfelen ac yn fywiog, a dywedir bod y wraig weddw Iris Storm yn The Green Hat gan Michael Hat, wedi’i seilio arni, ac yn ddiweddarach, y demptwraig dymhestlog, Amanda yn Private Lives gan Noel Coward.
Priododd Valentine Castlerosse, Is-Iarll afraid a cholofnydd clecs, ond ysgarodd y ddau wedi iddo ef, mae’n ymddangos, hurio ymchwilydd preifat i ddilyn ei wraig ac adrodd ar ei hanffyddlondeb.
Mae'r ymchwil hefyd yn dyfynnu o bapurau Harry Hopkins, gŵr a oedd ar ddeheulaw’r Arlywydd Roosevelt, sy'n dangos bod Churchill wedi defnyddio ei ddylanwad i gael tocyn hedfan prin i Doris er mwyn iddi allu teithio yn ôl i Brydain o America, â’r Ail Ryfel Byd yn ei anterth.
Mae Dr Warren Dockter yn ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ac awdur Churchill and the Islamic World: Orientalism, Empireand Diplomacy in the Middle East a golygydd Winston Churchill at the Telegraph.
Dywedodd Dr Dockter: “Mae'r hyn sydd yn cael ei ddatgelu yma am fywyd preifat Churchill yn ein helpu ni i ddod o hyd i'r dyn tu fewn i'r chwedl ac yn datgelu dealltwriaeth fwy cyflawn o'i gymeriad. Y tu hwnt i'w berthynas â Doris Castlerosse, mae'r erthygl academaidd ar gyfer Journal of Contemporary History yn esbonio ymhellach sut mae rhwydweithiau Churchilliaidd yn llywio’r ffordd ym mae Churchill cael ei gofio.”
Dywedodd yr Athro Richard Toye, sydd wedi ysgrifennu tri llyfr ar Churchill, fod yr ymchwil yn rhoi darlun llawnach o bennod adnabyddus ym mywyd Churchill, ac yn taflu golau newydd ar ei gymeriad.
"Er nad yw hyn yn newid yn sylweddol ein barn ni o Churchill fel arweinydd, mae'n rhoi golwg fwy cyflawn o'i gymeriad a'i briodas. Y farn gyffredin yw na wnaeth erioed gamu oddi ar y llwybr cul priodasol, a’i fod e a Clementine yn ymroddedig i'w gilydd. Y gwir yw bod Clementine yn casau’r Riviera Set yr oedd Churchill yn hoff o dreulio’i hafau yn eu cwmni, a’u bod yn ddylanwad drwg arno.”
Mae'r Athro Richard Toye yn Bennaeth Hanes ym Mhrifysgol Exeter ac yn awdur tri llyfr ar Winston Churchill, gan gynnwys The Roar of the Lion: The Untold Story of Churchill's Second World Speeches, y mwyaf diweddar.
Bydd Churchill’s Secret Affair yn cael ei ddarlledu ar Channel 4 ddydd Sul 4 Mawrth am 8 yr hwyr.