Myfyriwr o Aberystwyth i annerch cynhadledd dechnoleg ryngwladol
Bydd Carlos Roldan yn mynychu cynhadledd The European Summit diolch i gefnogaeth Cronfa Aber.
27 Chwefror 2018
Bydd myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn annerch cynhadledd ryngwladol ar y ffordd gallai technoleg ddigidol drawsnewid marchnadoedd ariannol.
Gwahoddwyd Carlos Roldan, myfyriwr Cyfrifiadureg ail flwyddyn i annerch cynhadledd The European Summit a fydd yn cael ei chynnal yn Cascais, i’r gogledd o Lisbon sy’n cymryd lle ar ddydd Llun 5 Mawrth 2018.
Yn wreiddiol o Alicante yn Sbaen, mae Carlos ac mae wedi bod yn gweithio gydag unigolion a chwmnïau masnachol yn datblygu technoleg sy’n deillio o blockchain.
Datblygwyd blockchain yn wreiddiol ar gyfer yr arian digidol Bitcoin, ac fe’i disgrifir fel math newydd o dechnoleg rhyngrwyd sy'n hwyluso trafodion ariannol.
Yn ei anerchiad i’r gynhadledd bydd Carlos yn trafod technoleg blockchain, deallusrwydd artiffisial a IOT – Rhyngrwyd y Pethau (Internet of Things), sef rhwydwaith o ddyfeisiadau megis ceir, offer cartref a dyfeisiau eraill sydd wedi eu cysylltu drwy'r rhyngrwyd.
Drwy ddefnyddio technoleg blockchain, mae Carlos yn datblygu marchnad amser real ar gyfer technoleg ariannol o dan enw'r cwmni European Blockchain Solutions.
Un o'i ddefnyddiau yw darparu gwybodaeth amser real ar gyfer yswiriant ceir.
Gellir defnyddio data a gesglir o'r cerbyd wrth iddo gael ei yrru sy'n adlewyrchu arddull y gyrru, cyflymder, amodau'r ffordd a chyflwr y gyrrwr. Mae modd defnyddio’r wybodaeth yma i greu pecyn yswiriant effeithlon i dalu am risg real a lleihau costau.
Dywedodd Carlos cyn ei araith: “Mae blockchain yn ei fabanod ac yn mynd i chwyldroi'r ffordd rydym yn defnyddio’r rhyngrwyd. Bydd gan bobl fwy o reolaeth
dros eu data eu hunain. Pan ddyfeisiodd Nokia eu ffôn cyntaf, nid oedd modd amgyffred bryd hynny beth fyddai ffôn symudol yn gallu ei wneud ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mewn modd tebyg, gallai technoleg blockchain newid yn sylweddol y ffordd mae pobl yn rhyngweithio â'r byd.”
“Mae blockchain yw creu rhwydweithiau tryloyw gyda lefel uchel o gryptograffeg er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel. Defnyddir pwynt ymddiriedaeth syml, cyfriflyfr sydd â rhestr o drafodion y mae gan bawb fynediad iddo i’w wirio. Mae hyn yn darparu sefydlogrwydd, tryloywder a diogelwch syber.”
Bydd Carlos yn mynychu'r gynhadledd diolch i gefnogaeth Cronfa Aber, sef nawdd a gyfrannir gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth er hybu profiad a datblygiad myfyrwyr presennol.
Dywedodd Dylan Jones, Rheolwr Cysylltu gyda Alumni a Rhoddion Unigol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch o’r cyfle i gefnogi Carlos yn ei waith ac i roi’r cyfle iddo rannu ei arbenigedd a'i syniadau ar lwyfan rhyngwladol. Mae'n gyfle gwych ac yn enghraifft o sut all Cronfa Aber gynorthwyo datblygiad myfyrwyr a’u hysbrydoli yn ogystal â chynnig amgylchedd addysgu cyfoethog iddynt tra’u bod yn astudio yma yn y Brifysgol.”
“Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'n cyn-fyfyrwyr a'n cefnogwyr o bedwar ban byd sy'n parhau i gyfrannu’n hael trwy Gronfa Aber, ac yn rhoi mynediad at lwyfannau i fyfyrwyr Aber yn ystod ac ar ôl eu cyfnod yma.”
Ymunodd Carlos â'r Adran Gwyddorau Cyfrifiadurol fel myfyriwr blwyddyn sylfaen, a dewisodd astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ei fod am barhau â'i astudiaethau trwy gyfrwng y Saesneg.
"Mae fy mhrofiad yn Aberystwyth wedi bod yn un rhagorol. Mae’r awyrgylch yn gret, ac rwyf wedi medru canolbwyntio ar fy natblygiad a’n nôd yn ddirwystr. Cefnogodd yr Adran fy mhrosiectau ac rwy’n ddiolchgar iawn i Cronfa Aber y Brifysgol am y gefnogaeth sydd yn fy nghalluogi i fynychu'r digwyddiad hwn a rhai eraill.
Mae Carlos hefyd yn un o'r ymgeiswyr ar gyfer InventerPrize 2018, cystadleuaeth entrepreneuraidd unigryw Prifysgol Aberystwyth sy'n cynnig £10,000 i'r syniad busnes buddugol.